Bydd clo mawr yng Nghymru o 28 Rhagfyr ymlaen, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi heddiw (16 Rhagfyr).

Dywedodd Mr Drakeford fod “cynnydd cyson y coronafeirws” yn golygu y bydd yn rhaid i’r wlad symud i’w lefel uchaf o gyfyngiadau, sef lefel 4.

Cyhoeddodd hefyd ddiwygiad i’r ‘rheol aelwydydd’ dros y Nadolig, gan ei newid o dair aelwyd mewn swigen i ddwy.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Yma yng Nghymru, y sefyllfa yw mai dim ond dwy aelwyd ddylai ddod at ei gilydd i ffurfio swigen Nadolig unigryw yn ystod y cyfnod o bum niwrnod.

“Y lleiaf o bobl rydyn ni’n cymysgu â nhw yn ein cartrefi, y lleiaf o siawns sydd gennym o ddal neu ledaenu’r feirws.

“Does yr un ohonom eisiau bod yn sâl y Nadolig hwn. A dydyn ni ddim eisiau rhoi coronafeirws i’n teulu agos na’n ffrindiau.

“Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi rhoi cyngor arbennig i bobl oedd gynt yn gwarchod eu hunain am gymysgu dros y Nadolig.”

Ychwanegodd y byddai modd i unigolyn sydd o aelwyd gyda dim ond un aelod ynddi ymuno gyda’r swigen dwy aelwyd hefyd.

Dryswch

Bu cryn ddryswch ar ôl y gynhadledd am statws y diwygiad hwn i’r ‘rheol aelwydydd’, gyda Phlaid Cymru galw rhoi’r cyfarwyddyd ar ffurf canllawiau’n unig yn “rysáit am ddryswch”.

Ond yn ddiweddarach, cafodd golwg360 gadarnhad y bydd y newid hwn yn y rheoliadau, nid dim ond yn ganllawiau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai nod rhoi’r cyfarwyddyd ar sail gyfreithiol – hynny yw yn y rheoliadau – oedd ei gwneud hi’n “haws” i’r cyhoedd ei ddeall.

“Penderfynodd Gweinidogion y prynhawn yma y byddwn yn diwygio’r rheoliadau yng Nghymru. Felly ar gyfer Rhagfyr 23 i 27 bydd y cyfyngiad ar gyfarfod dwy aelwyd yn rhan o gyfraith Cymru,” meddai’r llefarydd.

“Mae’n ei gwneud hi’n haws, felly does gennym ni ddim sefyllfa lle mae’r gyfraith yn dweud un peth ac mae’r canllawiau’n dweud rhywbeth arall.”

Dywedodd y llefarydd nad oedd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi ‘cam-ddweud’ yn gynharach ddydd Mercher pan ddywedodd mai canllawiau yn unig fyddai hyn.

Mynd yn groes i weddill Prydain

Mae Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, wedi dweud wrth ASau bod pedair gwlad y DU wedi cytuno i barhau gyda llacio cyfyngiadau coronafeirws dros y Nadolig “mewn egwyddor”.

A phan ofynnwyd i Mark Drakeford yn y gynhadledd ganol ddydd Mercher a oedd newid o dair i ddwy aelwyd dros y Nadolig yn golygu mynd yn groes i’r dull pedair gwlad, dywedodd:

“Rwy’n credu y byddaf mor glir ag y gallaf fod ar hyn o bryd. Nid yw canlyniad y cyfarfodydd rhwng y pedair gwlad wedi’i gyhoeddi eto,” meddai.

“Ni allaf ragfynegi’r datganiad hwnnw a byddai’n annheg i holl lywodraethau eraill y DU.

“Mae’r neges mor glir ag y gall fod. Yma yng Nghymru dros gyfnod y Nadolig y neges glir gan Lywodraeth Cymru yw mai dim ond dwy aelwyd ddylai gyfarfod.

“Dyna pa mor ddifrifol yw pethau yng Nghymru. Pa un a yw hynny’n ganllawiau, yn reoliadau, mae’r neges yr un fath.

“Dim ond dwy aelwyd ddylai ddod at ei gilydd. Dyna pa mor ddifrifol yw pethau. Alla i ddim mynd y tu hwnt i hynny nes i ganlyniadau’r trafodaethau rhwng y pedair llywodraeth gael eu cyhoeddi yn ddiweddarach heddiw.”

Y mesurau ‘Lefel 4’ newydd

Daw rhai mesurau i rym ar Noswyl Nadolig gyda’r holl fanwerthu nad yw’n hanfodol, gan gynnwys gwasanaethau cyswllt agos a chanolfannau hamdden a ffitrwydd yn cau.

Bydd pob safle lletygarwch yn cael ei orfodi i gau o 6pm ar ddydd Nadolig.

Ond dim ond o 28 Rhagfyr y bydd cyfyngiadau llymach lefel 4 yn berthnasol, gyda rhywfaint o lacio cyfyngiadau dros y Nadolig yn parhau rhwng 23 a 27 Rhagfyr.

Dywedodd Mr Drakeford wrth gynhadledd i’r wasg ddydd Mercher: “Bydd llawer ohonoch wedi gweld y rhybuddion gan uwch glinigwyr am yr effaith enfawr mae’r coronafeirws yn ei chael ar ein gwasanaeth iechyd i gyd.

“Mae’r sefyllfa rydyn ni’n ei hwynebu yn ddifrifol iawn. Rhaid i ni symud i rybudd lefel pedwar a thynhau’r cyfyngiadau i reoli lledaeniad y coronafeirws ac achub bywydau.

“Bydd y set newydd hon o gyfyngiadau lefel uwch yn berthnasol i Gymru gyfan.

“Mae hyn yn golygu y bydd yr holl fanwerthu nad yw’n hanfodol, gan gynnwys gwasanaethau cyswllt agos a phob canolfan hamdden a ffitrwydd, yn cau ar ddiwedd masnachu ar Noswyl Nadolig.

“Bydd pob safle lletygarwch yn cau o 6pm ar Ddydd Nadolig.

“Ac ar 28 Rhagfyr, ar ddiwedd cyfnod y Nadolig o bum niwrnod, bydd cyfyngiadau llymach ar gymysgu cartrefi, aros gartref, llety gwyliau a theithio yn berthnasol.”

“Sail ranbarthol”

Wrth ymateb i’r cyfyngiadau diweddaraf, beirniadodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AoS, y “negeseuon cymysg gan y Prif Weinidog a San Steffan” a dywedodd y dylid gosod cyfyngiadau “ar sail ranbarthol”:

“Gyda sefyllfa sy’n gwaethygu yng Nghymru a chlinigwyr yn rhybuddio y bydd y GIG yn cael ei lethu’n fuan, mae cyflwyno cyfyngiadau pellach ar Ddydd Nadolig yn anochel a’r peth iawn i’w wneud – ond dylid ei wneud ar sail ranbarthol i adlewyrchu lefelau lleol o achosion.

“Gyda llawer o ardaloedd yn y de eisoes yn uwchlaw’r trothwy ar gyfer Lefel 4 a’r cyngor gwyddonol yn nodi’n glir bod angen cyfyngiadau pellach, rhaid i Weinidogion egluro pam ei fod yn gohirio am wythnos arall cyn eu cyflwyno.

“Y realiti trist ar hyn o bryd yw ein bod yn mynd o un argyfwng i’r llall gyda chyfyngiadau newydd yn fesurau brys na ellir eu hosgoi oherwydd methiant polisi Llywodraeth Cymru.

“Bydd arnom angen cymorth ychwanegol yn awr i’r bobl a’r busnesau hynny a fydd yn cael eu taro galetaf gan y cyfyngiadau newydd hyn.

“Ond yn anad dim mae angen strategaeth glir a chyson arnom sy’n adennill rheolaeth dros y feirws ac yn nodi map ffordd i ailagor ac adfer, gan roi hyder a gobaith i bobl.”

“Colli rheolaeth dros y pandemig”

Wrth sôn am y cyhoeddiad heddiw, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies AoS, bod Llywodraeth Cymru wedi “colli rheolaeth dros y pandemig”:

“Mae wedi dod yn amlwg iawn yn y dyddiau diwethaf fod Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur wedi colli rheolaeth dros y pandemig ac erbyn hyn mae angen blanced dân arnom, nid seibiant tân, i roi fflamau’r haint allan mewn rhai rhannau o’r wlad.

“Er nad oes unrhyw un am weld cyfyngiadau pellach yn cael eu gosod, yn wyneb rhai o’r cyfraddau uchaf o’r coronafeirws yng Ngorllewin Ewrop, a chyda chyfraddau’n codi ym mhob rhan o Gymru, nid yw gwneud dim yn opsiwn.

“Mae’r sefyllfa’n ddifrifol iawn, ac mae gennym ddyletswydd i weithredu nawr i ddiogelu ein GIG rhag cael ein llethu fel y gall achub bywydau.

“Yn amlwg, bydd y penderfyniad hwn yn cael effaith ar fywoliaeth a busnesau ledled Cymru, felly mae’n hanfodol bod cwmnïau’n gallu cael gafael ar y cymorth ariannol sydd ei angen arnynt. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod hyn ar gael fel mater o frys.”