Mae undebau amaethwyr yng Nghymru wedi dweud fod ganddynt “bryderon difrifol” am gynllun newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer amaethyddiaeth.
Mae’r ‘Papur Gwyn ar Amaethyddiaeth yng Nghymru’ a gyhoeddwyd heddiw (Rhagfyr 16) yn nodi cyfres o gynigion i greu sector amaethyddol cynaliadwy ôl Brexit dros y 15 i 20 mlynedd nesaf.
Dyma’r ad-drefnu mwyaf ar bolisi amaethyddiaeth yng Nghymru mewn cenhedlaeth, a bydd yn gweld ffermwyr yn cael eu talu am waith sy’n helpu’r frwydr yn erbyn newid yr hinsawdd.
Diogelwch bwyd
Yn ôl Llywydd NFU Cymru, John Davies, ychydig iawn sydd wedi newid ers yr ymgynghoriad ddwy flynedd yn ôl.
“Mae Covid–19 wedi dangos pwysigrwydd sicrhau diogelwch bwyd i bawb mewn cymdeithas, dylai hyn gael ei ymgorffori fel un o amcanion allweddol polisi’r llywodraeth,” meddai.
“Mae’n siomedig gweld nad yw’r mater hwn yn cael ei gydnabod yng ngweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y 15-20 mlynedd nesaf.
“Bydd NFU Cymru nawr yn cymryd peth amser i astudio’r ymgynghoriad yn fanwl ond ein dadansoddiad cychwynnol yw nad yw’r cynigion hyn yn darparu’r fframwaith sydd ei angen i fodloni’r egwyddorion a’r uchelgais y mae NFU Cymru wedi’u gosod ar gyfer ffermio yng Nghymru – uchelgais ar gyfer sector cynhyrchiol, proffidiol a blaengar sy’n cyflawni ar gyfer Cymru gyfan.”
‘Tanseilio’ ffermydd teuluol
Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts, fod ganddo bryderon am effaith y Papur Gwyn ar ffermydd teuluol.
“Mae ganddon ni bryderon ac mae’n rhaid i mi ddweud dydi ein pryderon ni fel undeb ddim wedi cael eu lliniaru yn arw.
“Dwi yn teimlo bod rhai dyheuadau ganddyn nhw sydd yn gywir am eu bod nhw’n son am yr economi a’r amgylchedd ac dwi’n gwerthfawroig hynny.
“Rydan ni i gyd yn cytuno â’r amcanion o ddiogelu a gwella economi, amgylchedd a chynaliadwyedd ein cymunedau gwledig, y cyfeirir atynt yn y Papur Gwyn hwn,” meddai.
“Ond, mae gennon ni bryderon difrifol ynghylch sut bydd hyn yn cael ei wneud, ac yn teimlo bod perygl mawr y bydd y dyheadau a amlinellir yn y papur yn cael eu tanseilio, yn enwedig o safbwynt ffermydd teuluol ac economeg wledig.”
“Fy mrhyder mwyaf ydi o fewn y cynllun presennol, dydw i ddim yn gweld nhw am gael y canlyniadau y maen nhw’n meddwl gawn nhw allan ohono fo.
“Mae hwn eto yn engrhaifft wych o beth sydd yn digwydd gan Lywodraeth yn reit aml, bod nhw’n dod allan hefo syniadau, tu ol i’r syniadau bod yna ddyheuadau, ac i fod yn deg wyrech bod y dyheuadau yna yn hollol ddidwyll,” meddai.
“Ond y gwir amdani ydi, dydyn nhw ddim wedi gwneud eu gwaith cartref ac edrych i mewn i’r dyheuadau yna, sut mae’r dyheuadau yna’n mynd i fod o ddyheuad i rywbeth fedrwch chi wneud yn ymarferol yng nghefn gwlad Cymru.
“Mae cael syniadau da yn iawn, ond mae rhaid iddyn nhw fod yn ymarferol.
Dilyn Lloegr?
Yn 2018 amlinellodd Undeb Amaethwyr Cymru ac NFU Cymru eu polisi ar y cyd, gyda’r nod o roi sail gadarn i fwyd, ffermio, bywoliaethau, cymunedau ac amgylchedd Cymru ar ôl Brexit.
“Mae’n teimlo fel petaem yn cymryd cysyniad Seisnig hirsefydlog ac yn rhoi sbin Cymreig arno, yn hytrach na chreu system Gymreig,” ychwanegodd Glyn Roberts.
“Mi oedd ganddyn nhw – Llywodraeth Cymru – ddarn o bapur glan a dwi’n teimlo eu bod nhw wedi colli cyfle i edrych yn arloesol… ffresh o be ‘da ni isio wneud rwan i ddiwallu anghenion amaethyddiaeth Cymru.
“Yn hytrach na bo’ nhw wedi gwneud hynny, mae’n nhw wedi dilyn cynllun sy’n cael ei fabwysiadu yn Lloegr ac heb sylweddoli y gwahaniaeth sydd yna rhwng amaethyddiaeth Lloger ac amaethyddiaeth Cymru.”
Amseru
Mae’r undebau wedi croesawu’r bwriad i barhau a’r y Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) tan 2022 – bydd y taliadau yn parhau cyn belled â bod cyllid ar gael gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Ond mae NFU Cymru wedi cwestiynu ai nawr yw’r amser cywir i cynnal ymgynghoriad – mae cyfnod ymgynghori’r Papur Gwyn ar agor tan fis Mawrth 2021.
“Mae hwn yn ymgynghoriad hollbwysig,” ychwanegodd John Davies.
“Mae NFU Cymru yn cydnabod bod hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ddatblygu a chyflwyno polisi bwyd a ffermio cynhwysfawr ‘Gwnaethpwyd yng Nghymru, ar gyfer pobl Cymru’.
“Rydym yn pryderu y bydd amseriad cyhoeddi’r papur gwyn hwn yn ei gwneud yn anodd i ffermwyr gymryd rhan weithredol yn yr ymgynghoriad hwn.
“Y ffocws mwyaf dybryd ac uniongyrchol i bob un ohonom ar hyn o bryd yw cefnogi ein gilydd drwy’r pandemig presennol ac wrth baratoi ar gyfer y newidiadau a’r aflonyddwch sylweddol y bydd y diwydiant yn eu hwynebu ar ôl i gyfnod pontio Brexit ddod i ben ar 31 Rhagfyr.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru gydnabod hyn ac ystyried pa mor briodol yw ymgynghoriad ar hyn o bryd.”