Mae Aelod Seneddol wedi ceryddu Llywodraeth San Steffan yn sgil “cadarnhad” y byddan nhw’n bwrw ati â mesur Brexit dadleuol.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi dadlau bod angen pasio Bil y Farchnad Fewnol er mwyn sicrhau masnach lefn ym Mhrydain pan fydd rheolau’r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben.

Ond mae gweinidogion yng Nghymru a’r Alban, a sawl llais blaenllaw yn Nhŷ’r Arglwyddi, yn gofidio mai ymgais yw hyn i gipio pwerau’r oddi wrthynt, ac mae yna wrthwynebiad mawr tuag ato.

Mae senedd-dai Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi gwrthod a rhoi cydsyniad, ac mae cryn ddyfalu ynghylch a fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwrw ati ta beth.

Bellach mae un o weinidogion Llywodraeth San Steffan wedi cynnig diweddariad sydd, yn ôl Liz Saville Roberts, yn “gadarnhad” y byddan nhw’n bwrw ati heb gydsyniad.

“Dyma ni gadarnhad bod San Steffan yn bwrw ymlaen â’i Mesur cipio pwerau er i Gymru a’r Alban wrthod caniatâd deddfwriaethol,” meddai’r Aelod Seneddol Plaid Cymru.

“Croeso i’r Deyrnas ‘Unedig’, lle mae un genedl yn gorfodi penderfyniadau ar y lleill. Annibyniaeth – mae’n hen bryd.”

Brynhawn ddoe dywedodd Llywodraeth Cymru y gallan nhw weithredu’n gyfreithiol pe bai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwrw ati i geisio pasio’r Bil.

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig am sylw.

Y datganiad

Mae datganiad gan Paul Scully, Gweinidog Llundain ac Is-Ysgrifennydd Seneddol Gwladol dros Fusnes, yn nodi bod gohebu â “Llywodraeth Cymru, yn benodol, wedi arwain at newidiadau sylweddol”.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fodd bynnag, yn difaru bod Senedd yr Alban a Senedd Cymru ill dau wedi gwrthod rhoi eu cydsyniad i’r Bil,” meddai.

“Rydym, trwy gydol taith y Bil, wedi dweud bod y Llywodraeth yn agored i drafod pryderon pob un o’r llywodraeth ddatganoledig.

“Ac rydym wedi dweud y byddwn yn gwneud newidiadau i’r Bil lle bo hynny’n bosib, heb danseilio pwrpas y ddeddfwriaeth, a heb danseilio’r ddeddfwriaeth ei hun.

“Mae gwthio’r Bil ymlaen at gydsyniad brenhinol yn angenrheidiol er mwyn rhoi’r strwythurau cyfreithiol yn eu lle sydd yn darparu eglurder a chysondeb i fusnesau a dinasyddion sy’n gweithio ledled y wlad.”