Mae carfan o Geidwadwyr yn blaenoriaethu Brexit, ac yna eu plaid, uwchlaw’r undeb.

Dyna mae cyn-Gyfarwyddwr Cyfathrebu David Cameron (y cyn-Brif Weinidog Ceidwadol) wedi ei ddweud ar bodlediad The Guardian UK: Politics Weekly.

What if…? yw enw’r bennod a bu’r panelwyr yn trafod beth fyddai wedi digwydd pe bai mwyafrif wedi pleidleisio yn erbyn Brexit yn refferendwm 2016.

Dadl Craig Oliver oedd y byddai Brexit wedi aros yr agenda gan fod y Ceidwadwyr – yn benodol carfan yr ERG – mor frwd o’i blaid.

“Bron a bod yn beth crefyddol”

“Yr hyn sydd yn rhaid deall am feddylfryd llawer o Geidwadwyr ar y pryd – a’r Grŵp Ymchwil Ewropeaidd (ERG) yn awr – yw bod dim byd yn bwysicach iddyn nhw na Brexit,” meddai.

“Mae’r Blaid Geidwadol yn dod yn ail. Mae undeb y Deyrnas Unedig yn drydydd. Dyw e’ jest ddim yn ei ystyried yn fater y gellid cyfaddawdu â fe. Mae bron a bod yn beth crefyddol.”

Dywedodd hefyd y byddai David Cameron, y Prif Weinidog ar y pryd, a chefnogwr brwd tros aros, wedi mynd beth bynnag oedd y canlyniad.

Roedd David Cameron yn Brif Weinidog ar y Deyrnas Unedig rhwng 2010 a 2016, ac mi ymddiswyddodd yn sgil y refferendwm Brexit.

“Pe bai David Cameron wedi ennill byddai wedi bod mewn sefyllfa hynod o anodd,” meddai. “Byddai wedi derbyn her i’w arweinyddiaeth yn ddigon buan – mwy na thebyg oddi wrth Boris Johnson.

“Dw i’n credu y byddai wedi ei wthio o’i safle yn arweinydd y Ceidwadwyr. Ac mi fydden mewn sefyllfa lle byddai pobol yn paratoi ar gyfer refferendwm arall ar Ewrop.”

Roedd Craig Oliver yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu o 2011 hyd at 2016.

“Plaid genedlaetholgar Seisnig”

Daw sylwadau Craig Oliver wedi i Guto Bebb, cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol, ddweud bod y Ceidwadwyr “wedi troi’n blaid genedlaetholgar Seisnig”.

Ei ddadl yw bod rhai Torïaid yn credu bod chwalu’r undeb yn “bris gwerth ei dalu” am Brexit.

Yn siarad â Golwg yn ddiweddar mae David TC Davies, Gweinidog yn y Swyddfa Gymreig, wedi dweud bod Brexit a’r undeb ill dau “yn hollol bwysig” i’r blaid.