Yn ôl Helen Mary Jones, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, mae Llywodraeth Cymru wedi “colli rheolaeth dros y sefyllfa” yn ymwneud â Covid-19.

“Mae’r saga data diweddaraf yn dangos bod y sefyllfa’n llawer gwaeth na’r disgwyl,” meddai.

“Rhaid cyflwyno cyfyngiadau llymach yn gynharach mewn ardaloedd sydd wedi cyrraedd trothwy Lefel 4.

“Rwy’n ofni bod Llywodraeth Cymru yn colli rheolaeth ar y sefyllfa.”

Daw ei sylwadau wedi i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyfaddef y gallai nifer y profion positif yn ystod yr wythnos ddiwethaf fod ddwywaith yn uwch na’r disgwyl.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ddydd Mercher (Rhagfyr 16) bydd clo mawr yng Nghymru o Ragfyr 28 ymlaen.

Galw am ragor o gymorth

Mae Plaid Cymru hefyd wedi galw am fwy o gymorth ariannol a llety ynysu i alluogi pobol hunanynysu’n ddiogel.

“Nid cyfyngiadau yn unig yw’r ateb,” ychwanegodd Helen Mary Jones.

“Rhaid profi, olrhain, cefnogi ac ynysu – rhaid i’r cwbl gyd weithio gyda’i gilydd.

“Mae angen annog pobol i hunanynysu lle bo angen gyda mwy o gymorth ariannol a llety ynysu.

“Mae angen i fusnesau sy’n cael eu gorfodi i gau gael cefnogaeth lawn ac mae angen cynnydd sylweddol yn faint o gysylltiadau agos mae’r system brofi ac olrhain yn eu cyrraedd o fewn 24 awr.

“Y diffyg strategaeth a negeseuon clir yma sy’n gweld hygrededd y Llywodraeth yn dirywio ac mae’n ei chael hi’n anodd dwyn perswad â’r y cyhoedd fwy fwy bob dydd.”