Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyfaddef bod 11,000 o brofion Covid-19 positif ychwanegol ar goll o ffigyrau swyddogol oherwydd mater technegol.

Wrth i achosion barhau i godi yng Nghymru, mae’r “gwaith cynnal a chadw” yn golygu y gallai nifer y profion positif yn ystod yr wythnos ddiwethaf fod ddwywaith yn uwch na’r disgwyl – 11,911 o achosion sydd wedi eu cofnodi yn rhwng Rhagfyr 9-15 hyd yma.

Mae 103,098 o bobl wedi profi’n bositif yng Nghymru ers dechrau argyfwng Covid-19.

Bydd yr 11,000 o achosion ychwanegol – a fydd yn cael eu hychwanegu at ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Iau, Rhagfyr 17 – yn cynrychioli tua un rhan o ddeg o’r cyfanswm newydd.

Daw hyn wedi i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, gyhoeddi y bydd clo mawr yng Nghymru o 28 Rhagfyr ymlaen.

‘Amserol a chadarn’

Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru wedi galw am sicrwydd ynglŷn â’r “methiannau”.

“Gydag achosion cadarnhaol yng Nghymru yn codi i’r lefelau uchaf erioed mae’n hanfodol bod adrodd data yn amserol ac yn gadarn,” meddai Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru wrth y BBC.

“Mae’r cyhoedd yn haeddu darlun cyflawn a chyfredol o’r sefyllfa er mwyn dangos difrifoldeb yr hyn rydym yn ei wynebu.

“Rydym angen sicrwydd brys bod y methiannau hyn wedi cael sylw.

“Mae nifer sylweddol o ffigurau yn cael eu hychwanegu at y cyfanswm heddiw ac mae rhaid cwestiynu’r ffordd mae’r data yma yn cael ei ddadansoddi.

“Mae hefyd rhaid cwestiynu’r cydweithio rhwng yr hyn sy’n cael ei reoli yng Nghymru a labordai Lighthouse.”

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth nad oedd y cyfyngiadau newydd yn annisgwyl.

“Rhaid i mi ddweud pan gyhoeddodd y Prif Weinidog ddoe y byddai cyfyngiadau newydd roeddwn yn cwestiynu pam ddim gwneud y newid nawr a chynyddu’r gefnogaeth i’r ardaloedd effeithiwyd arnynt fwyaf.”

‘Diffyg rheolaeth’

“Mae Llafur Cymru a’u gweinidog iechyd yn amlwg wedi colli rheolaeth ar y feirws yng Nghymru,” meddai Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae’r data yma yn syfrdanol ac yn dangos diffyg rheolaeth y Gweinidog Iechyd o argyfwng Covid, mae’n ychwanegu at yr 13,000 o lythyrau ynysu anfonwyd drwy gamgymeriad a’r 18,000 o ddata personol a gafodd ei ryddhau ym mis Medi.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn galw’r llanast yma yn ’danadrodd sylweddol’ – dydy hynny ddim yn dangos difrifoldeb y broblem.”