Mae un ymhob 10 dyn yn y Deyrnas Unedig wedi ystyried lladd eu hunain pan maen nhw’n teimlo’n bryderus neu’n isel – ddwywaith y nifer yn 2009, yn ôl astudiaeth gan elusen iechyd meddwl Mind.

Ond mae dynion deirgwaith yn fwy tebygol erbyn hyn o fynd at therapydd i drafod eu problemau nag oedden nhw 10 mlynedd yn ôl, yn ôl yr astudiaeth.

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Mind fel rhan o’r bartneriaeth gyda Chynghrair Bêl-droed Lloegr (EFL). Mae’r elusen bellach yn galw am ragor o arian gan y Llywodraeth ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl y Gwasanaeth Iechyd sydd wedi’u hanelu at ddynion.

Roedd yr astudiaeth wedi’i gynnal cyn y pandemig Covid, ym mis Medi’r llynedd, ac mae’n cael ei gymharu gyda data arolwg YouGov yn 2009 er mwyn deall sut mae iechyd meddwl dynion wedi newid.

Mae’r ffigurau yn adlewyrchu cynnydd yn y modd mae rhai dynion yn delio gyda’u problemau, fel yfed alcohol ar eu pen eu hunain (sydd wedi cynyddu o 9% i 13%) a chymryd cyffuriau (cynnydd o 1% i 4%).

Yn ôl yr arolwg roedd 43% o ddynion yn cyfaddef eu bod nhw’n bryderus neu’n isel o’i gymharu â 53% o fenywod. Mae hyn yn dangos cynnydd o 6% ymhlith dynion.

“Stigma”

Mae’n ymddangos bod dynion erbyn hyn hefyd yn fwy tebygol o gael cymorth gan eu meddyg teulu (cynnydd o 23% i 35%).

“Mae hyn yn awgrymu bod y stigma ynghylch cael cymorth yn lleihau gydag ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth yn herio’r stereoteipio o’r dyn ‘cryf, tawel’,” meddai’r adroddiad.

Dywedodd Paul Farmer, prif weithredwr Mind, bod y canlyniadau yn “bositif” bod dynion yn fwy tebygol o ofyn am help a’n bod “fel cymdeithas yn fwy agored am iechyd meddwl yn ystod y degawd diwethaf”.

Serch hynny, meddai, “mae dynion yn dal i fod deirgwaith yn fwy tebygol o ladd eu hunain na menywod, felly mae llawer mwy i’w wneud i sicrhau bod dynion yn gallu gofyn am help a chael y gefnogaeth pan maen nhw ei hangen cyn cyrraedd y pwynt yma.”