Mae’r 11,000 o brofion coronafeirws positif sydd wedi’u cyhoeddi heddiw ar ol bod ar goll o ffigyrau swyddogol blaenorol yn dangos “pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa,” meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford.
Cyhoeddwyd 11,468 yn rhagor o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru heddiw, gan fynd â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 114,566.
Nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru 52 yn rhagor o farwolaethau, gan fynd â’r cyfanswm yng Nghymru ers dechrau’r pandemig i 2,973.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod yr adroddiad yn cynnwys ôl-adroddiad o tua 11,000 o achosion yn dilyn oedi oherwydd mater technegol.
Please note: pic.twitter.com/38uiWuJVSa
— Public Health Wales (@PublicHealthW) December 17, 2020
“Nid problem gyfrifiadurol”
“Mae’r ffigyrau’n dangos pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa yma yng Nghymru, ac yn tanlinellu pam y gwnaethom y penderfyniadau ddoe ar gyfer y cyfnod cyn y Nadolig, yn ystod y Nadolig, ac unwaith y bydd y Nadolig ar ben,” meddai Mark Drakeford ar BBC Breakfast yn gynharach heddiwr.
Wrth drafod yr oedi o ran cyhoeddi’r ystadegau, dwedodd nad problem gyfrifiadurol oedd yn gyfrifol am y ffaith bod y profion positif hyn heb eu cyhoeddi.
“Roedd hyn wedi’i gynllunio er mwyn uwchraddio’r system gyfrifiadurol ac nid oes data ar goll,” meddai.
Eglurodd y Prif Weinidog fod pob prawf positif yng Nghymru wedi eu cofnodi ac wedi eu lanlwytho i’r system olrhain cyswllt.
“Roedd y Llywodraeth yn ymwybodol nad oedd profion yn cael eu llwytho i’r system”, meddai.
“Roeddem yn gwybod bod y niferoedd yn is – roeddem wedi dweud hynny drwy’r wythnos – felly nid yw hyn yn syndod i ni.
“Ond mae’r ffigurau’n dangos pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa yng Nghymru erbyn hyn ac yn dangos pam ein bod wedi penderfynu cyflwyno rhagor o gyfyngiadau wedi’r Nadolig.”
Y Gwasanaeth Iechyd dan bwysau cynyddol
Ychwanegodd y Prif Weinidog fod y cynnydd mewn achosion yn rhoi pwysau cynyddol ar y Gwasanaeth Iechyd.
“Mae Cymru’n barod, ond mae’r effaith mae’r coronafeirws yn ei gael ar allu’r Gwasanaeth Iechyd i wneud yr holl bethau eraill roedden ni eisiau eu gwneud i’w weld yn barod.
“Mae gennym 2,100 o bobol mewn gwelyau ysbyty heddiw yng Nghymru sy’n dioddef o’r coronafeirws – mae hynny’r un fath â phum ysbyty ranbarthol llawn.
“Pan mae gennych bwysau yn y system mae’n ei gwneud yn anodd iawn i’r gwasanaeth iechyd wneud popeth arall.”
‘Amserol a chadarn’
Serch hynny mae’r gwrthbleidiau yn dweud bod y digwyddiad yn ddifrifol ac yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o “golli rheolaeth ar y firws yng Nghymru”.
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru: “Gydag achosion cadarnhaol yng Nghymru yn codi i’r lefelau uchaf erioed mae’n hanfodol bod adrodd data yn amserol ac yn gadarn,” meddai Rhun ap Iorwerth, wrth y BBC.
“Mae’r cyhoedd yn haeddu darlun cyflawn a chyfredol o’r sefyllfa er mwyn dangos difrifoldeb yr hyn rydym yn ei wynebu.
“Rydym angen sicrwydd brys bod y methiannau hyn wedi cael sylw.”
Ac yn ol Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig mae Llafur Cymru a’u gweinidog iechyd “yn amlwg wedi colli rheolaeth ar y feirws yng Nghymru.”
“Mae’r data yma yn syfrdanol ac yn dangos diffyg rheolaeth y Gweinidog Iechyd o argyfwng Covid, mae’n ychwanegu at yr 13,000 o lythyrau ynysu anfonwyd drwy gamgymeriad a’r 18,000 o ddata personol a gafodd ei ryddhau ym mis Medi.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn galw’r llanast yma yn ’danadrodd sylweddol’ – dydy hynny ddim yn dangos difrifoldeb y broblem.”