Mae disgwyl i’r Unol Daleithiau ddwyn cyhuddiadau newydd yn erbyn dyn o Libya y maen nhw’n credu oedd wedi adeiladu’r bom gafodd ei ddefnyddio i ffrwydro awyren Pan Am dros Lockerbie yn yr Alban 32 mlynedd yn ôl.

Mae disgwyl i dwrne cyffredinol yr Unol Daleithiau, William Barr, sydd ar fin gadael ei swydd, gyhoeddi eu bod yn bwriadu cyhuddo cyn-swyddog cudd-wybodaeth Libya, Mohammed Abouagela Masud, o wneud y ddyfais a ffrwydrodd yr awyren ar Ragfyr 21, 1988.

Cafodd y 259 o bobl oedd yn teithio ar yr awyren eu lladd a bu farw 11 o drigolion Lockerbie ar ôl i ddarnau o’r awyren ddisgyn ar gartrefi yn y dref. Roedd y rhan fwyaf o’r teithwyr ar yr awyren yn dod o’r Unol Daleithiau wrth iddyn nhw ddychwelyd adref ar gyfer gwyliau’r Nadolig.

Daw’r datblygiadau diweddaraf wrth i bum barnwr yn yr Alban ystyried apêl gan deulu Abdelbaset al-Megrahi a gafodd ei ddedfrydu yn 2001. Cafodd Megrahi ei ryddhau o’r carchar yn 2009 ar ôl clywed bod ganddo ganser. Fe ddychwelodd i Libya a bu farw yn 2012. Fe oedd yr unig un i gael ei gyhuddo mewn cysylltiad â’r ymosodiad brawychol.

Mae Mohammed Abouagela Masud eisoes yn y ddalfa yn Libya.