Mae swyddfa Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc, wedi cadarnhau ei fod wedi derbyn prawf positif am covid-19.

Mi fydd yn hunan-ynysu am saith diwrnod, ac mi fydd yn “parhau i weithio gan fwrw ati a’i waith o bell,” yn ôl datganiad gan y swyddfa.

Mae’r datganiad yn nodi ei fod wedi mynnu prawf “cyn gynted ag yr ymddangosodd y symptomau” ond nid yw’n glir pa symptomau yw’r rheiny.

Nid yw’n glir os oes ymdrech yn mynd rhagddi i gysylltu â’r rheiny mae ef wedi bod mewn cyswllt â nhw.

Dyn prysur

Mae’r Arlywydd wedi bod yn ddigon prysur dros y diwrnodau diwethaf.

Bu’n rhan o gyfarfod Undeb Ewropeaidd ar ddiwedd yr wythnos ddiwetha’ lle gynhaliodd cyfarfod ag Angela Merkel, Canghellor yr Almaen.

Wnaeth e’ gyfarfod â Phrif Weinidog Portiwgal, António Costa, ddydd Mercher – hyd yma does dim sylw wedi bod wrth swyddogion ym Mhortiwgal.

Cynhaliodd gyfarfod cabinet ar yr un diwrnod, ac ymhlith y gweinidogion a oedd yno oedd Prif Weinidog Ffrainc, Jean Castex. Mae yntau hefyd bellach yn hunan-ynysu.

Hunan-ynysu

Ym mis Medi cafodd y cyfnod hunan-ynysu ei ostwng o 14 diwrnod i saith diwrnod yn Ffrainc.

Rhesymeg yr awdurdodau iechyd yw bod pobol yn fwy heintus yn ystod yr wythnos gyntaf, ac maen nhw’n dadlau bod pobol yn fwy tebygol o barchu’r cyfnod ynysu byrrach.