Mae cyn-chwaraewyr rygbi rhyngwladol Cymru a Lloegr ymhlith chwe chwaraewr arall sydd yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn awdurdodau rygbi.

Er bod pedwar wedi penderfynu aros yn ddienw mae cyn-ganolwr Dan 20 Cymru, Adam Hughes, a chyn-chwaraewr rheng ôl Dan-21 Lloegr, Neil Spence, wedi dewis rhannu eu profiad.

Cafodd llythyr gan gwmni cyfreithiol Rylands – sydd wedi siarad â dros 130 o chwaraewyr sydd wedi ymddeol – ei yrru fore dydd Iau, Rhagfyr 17, i Rygbi’r Byd, Undeb Rygbi Cymru ac Undeb Rygbi Lloegr.

Daw hyn wedi i gyn-wythwr Cymru Alix Popham a phum chwaraewr arall ddweud bod y gamp wedi ei gadael gyda niwed parhaol ar ôl cael diagnosis o arwyddion cynnar dementia.

Ers ymddeol yn 2018, mae Adam Hughes, sydd bellach yn 30 oed, wedi cael diagnosis o anafiadau i’r ymennydd a symptomau ôl-gyfergyd.

Tra bod y cyn-chwaraewyr eraill wedi cael diagnosis o anaf trawmatig i’r ymennydd, arwyddion cynnar o ddementia, ac encephalopathi cronig (CTE).

Yn ôl cwmni cyfreithiol Rylands roedd yr awdurdodau yn ymwybodol o’r peryglon.

“Mae’r cyn-chwaraewyr yn honni bod yr RFU, WRU a Rygbi’r Byd yn ddyledus iddynt,” meddai’r cyfreithwyr yn y llythyr.

“Roedd dyletswydd arnynt i gymryd gofal rhesymol am eu diogelwch drwy sefydlu a gweithredu rheolau er mwyn asesu, adnabod a thrin anafiadau gwirioneddol neu amheus yn ystod gemau a sesiynau hyfforddi.”

‘Nid problem i chwaraewyr sy’n chwarae yn y sgrym yn unig’

Mae Richard Boardman o’r cwmni cyfreithiol yn mynnu y bydd rhai o’r achosion yn dangos y niwed posibl a achosir drwy chwarae’r gamp waeth beth fo safle’r chwaraewr.

“Mae’r cyhoeddiad yr wythnos ddiwethaf am gyflwr rhai o fawrion chwaraeon rygbi wedi synnu’r gamp. Ac eto, i lawer, roedd hyn yn gwbl anochel,” meddai.

“Rwy’n credu mai’r hyn fydd yn synnu pobol yw oedran y chwaraewyr, ond hefyd y safleoedd yr oeddent yn chwarae ynddynt.

“Does dim rhaid i chi fod yng nghanol y sgrym i ddioddef anafiadau o’r fath.”

Mae’r cwmni cyfreithiol wedi rhestru 24 o fethiannau gan Rygbi’r Byd, Undeb Rygbi Cymru ac Undeb Rygbi Lloegr.

Ymateb Undeb Rygbi Cymru

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn y llythyr gan y cyfreithwyr ac y byddant yn cymryd amser nawr i ystyried ei gynnwys.

“Yr ydym yn drist iawn o glywed am brofiadau personol a dewr gan gyn chwaraewyr,” meddai Rygbi’r Byd, Undeb Rygbi Cymru ac Undeb Rygbi Lloegr mewn datganiad ar y cyd.

“Fel unrhyw gamp mae rygbi yn gamp sydd ag elfen o risg, mae rygbi’n cymryd lles chwaraewyr o ddifrif ac mae’n parhau i fod yn brif flaenoriaeth i ni. O ganlyniad i wybodaeth wyddonol mae rygbi wedi datblygu dull o oruchwylio, addysgu, rheoli ac atal cyfergydion ar draws y gêm gyfan.

“Rydym addysgu hyfforddwyr, dyfarnwyr a chwaraewyr ar draws y gêm ac mae ymagwedd rygbi tuag at asesiadau anafiadau i’r pen a phrotocolau cyfergyd wedi arwain at lawer o chwaraeon tîm eraill yn mabwysiadu trefn debyg.

“Byddwn yn parhau i ddefnyddio tystiolaeth feddygol ac ymchwil i barhau i ddatblygu ein dull gweithredu.

“Fel gydag unrhyw achos cyfreithiol posibl, byddai’n amhriodol rhoi sylwadau ar fanylion y llythyr.”

Sylwadau Adam Hughes

Wrth siarad am ei brofiadau a’i symptomau, dywedodd Adam Hughes:

“Gorffennais fy ngyrfa yn 28 oed yn dilyn cyfergyd arbennig o wael. Un trawiad ar y pen yn ormod. Ar y dechrau, y cyfergydion mwy lle’r oeddwn yn cael fy nharo allan yn llwyr ac ro’dd hi’n cymryd achau i mi wella… ac yna dros amser dechreuodd hyd yn oed y rhai llai gael effaith. Ces i nharo allan yn llwyr tua wyth gwaith yn fy ngyrfa… yr un waethaf oedd yn ystod gêm cyn-tymor yn 2016 – cymerodd chwe mis i fi wella o honna.

“Wrth gwrs, rwy’n gwybod y bydd pobl yn dweud fy mod i’n gwybod beth oedd y risgiau. Oeddwn, ond mae hynny’n methu’r pwynt yn llwyr. Pe bai cyfleoedd i wneud y gêm yn fwy diogel, a chredaf fod, yna roedd yn ddyletswydd ar y rheini â phŵer i wneud hynny. Mae gan y gêm ffordd bell iawn i fynd o hyd o ran addysg am gyfergydion.

“Dydw i ddim yn dioddef eto yn y ffordd y mae rhai o’r chwaraewyr rygbi hŷn, ond rwy’n dal i addasu’r hyn rwy’n ei wneud mewn bywyd bob dydd i wneud yn siŵr nad ydw i’n sbarduno’r symptomau, ac rwy’n dal i ddysgu ble mae fy nherfynau. Bu’n rhaid imi adeiladu [fy nghapasiti] ymarfer corff yn llwyr, ac mae hon yn frwydr barhaus i mi. Os byddaf yn gwthio’r terfynau hynny’n rhy bell, yna bydd gweddill y dydd yn cael ei dreulio mewn ystafell dywyll yn teimlo’n sâl.”