Gallai capten Cymru, Alun Wyn Jones, golli dechrau’r Chwe Gwlad.

Anafodd y chwaraewr profiadol ei ben glin yn ystod gêm olaf Cymru yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref yn erbyn yr Eidal ddechrau fis Rhagfyr.

Yn ôl hyfforddwr rhanbarth y Gweilch, Toby Booth, gallai Alun Wyn Jones fod allan am o leiaf deg wythnos.

Bydd Cymru’n croesawu Iwerddon i’r Stadiwm Cenedlaethol ar benwythnos agoriadol y Chwe Gwlad ar Chwefror 7.

‘Dyna ei natur’

“Rydyn ni’n meddwl y bydd e’n wythnosau, mae yn y ffigyrau dwbl,” meddai Toby Booth.

“Mae’n debyg ei fod rhywle o gwmpas hynny, sy’n siomedig iddo ac yn amlwg i ni.

“Wrth gwrs, pe bawn i’n ei ddweud wrth Alun, byddai’n dweud: ‘Fydda i’n ôl mewn wyth’. Dyna ei natur.”

Mae’r clo 35 oed bellach wedi chware 143 o gemau rhyngwladol dros Gymru a naw prawf arall i’r Llewod.

Mae hefyd wedi chwarae 238 o gemau i’r Gweilch – mwy na’r un chwaraewr arall.

Yn absenoldeb Alun Wyn Jones, y blaenasgellwr Justin Tiputic fydd yn arwain y Gweilch yn erbyn Caerwrangon yn y Cwpan Her ddydd Sadwrn, Rhagfyr 19.