Dim ffigurau coronafeirws yng Nghymru heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 13)

Dydy Iechyd Cyhoeddus Cymru ddim wedi cyhoeddi eu ffigurau coronafeirws dyddiol heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 13).

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, maen nhw’n dweud eu bd nhw’n gwneud “gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio ar System Rheoli Gwyboaeth Labordy GIG Cymru”.

Mae hyn, meddai’r neges, “er mwyn uwchraddio gwasanaethau hanfodol”.

Annog cwsmeriaid i beidio â phentyrru nwyddau mewn panig os na fydd bargen Brexit

Mae siopau’n prynu nwyddau ychwanegol, ond does dim modd storio rhai bwydydd am gyfnodau hir o amser

Darllen rhagor

Brexit: Plaid Cymru’n galw ar Lywodraeth Prydain i gyfaddawdu

Liz Saville Roberts yn mynegi pryder am ddyfodol swyddi pobol

Darllen rhagor

Rhybudd i deithwyr yn Sir Gaerfyrddin

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn rhybuddio am amodau gyrru gwael yn Sir Gaerfyrddin.

Maen nhw’n rhybuddio pobol i fod yn ofalus oherwydd bod dŵr ar yr A48 rhwng Llanddarog a Chaerfyrddin, ac i osgoi’r ardal os oes modd.

Brexit: trafodaethau masnach am barhau, medd Ursula von der Leyen

Daw sylwadau Llywydd Comisiwn Ewrop yn dilyn trafodaethau â Boris Johnson

Darllen rhagor

Logo Heddlu'r De yn siap helmed

Dynes wedi marw yng Nghaerdydd

Y gwasanaethau brys wedi’u galw i drosffordd Gabalfa am oddeutu 2.45yb

Darllen rhagor

Y tu mewn i'r ty gwydr

Yr Ardd Fotaneg yn cau eu drysau o yfory (dydd Llun, Rhagfyr 14)

“Rydym wedi gorfod cau oherwydd canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru”

Darllen rhagor

Tîm rygbi Cymru am glywed pwy fydd eu gwrthwynebwyr yng Nghwpan y Byd 2023

Bydd timau’n cael eu trefnu yn ôl y rhestr ddetholion 11 mis yn ôl cyn ymlediad y coronafeirws

Darllen rhagor

Jonathan Bartley, 36, ar goll o Gaerfyrddin

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn chwilio am ddyn 36 oed sydd ar goll o Gaerfyrddin.

Does neb wedi gweld Jonathan Bartley ers yn gynnar fore heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 13).

Ar y pryd, roedd e ar Heol y Bragdy.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.