Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod iechyd meddwl yn ganolog i’w chynlluniau ar gyfer pen draw’r argyfwng.

Dyna mae Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd wedi ei ddweud wrth lansio ei adroddiad i effaith covid ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Bu’r pwyllgor yn cynnal cyfres o sesiynau dystiolaeth â chynrychiolwyr o’r maes, ac mae’n awgrymu bod gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu trin yr un mor bwysig â gwasanaethau iechyd.

“P’un ai oherwydd bod y cyfyngiadau wedi arwain at unigrwydd, at golli swyddi, at galedi ariannol neu brofedigaeth, mae’n bwysicach nag erioed sicrhau bod cymorth a thriniaethau iechyd meddwl ar gael,” meddai Dr Dai Lloyd, Plaid Cymru, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Mae’r angen i sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl yn thema sydd wedi codi dro ar ôl tro yn ystod llawer o waith y Pwyllgor hwn, ac mae Covid-19 wedi dod â hyn i’r amlwg.

“Mae’n gwbl annerbyniol nad yw gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu blaenoriaethu yn yr un modd ag iechyd corfforol ac ni allwn ganiatáu i hyn barhau.”

Argymhellion y pwyllgor

Mae’r pwyllgor hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gadw llygad ar gyfraddau hunanladdiad a hunan-niweidio tra bod yr argyfwng yn mynd rhagddo.

Mae hefyd yn awgrymu bod y Llywodraeth yn datblygu canllawiau cenedlaethol er mwyn sicrhau gwasanaeth o safon gan y rheiny sy’n ymdrin â phobol sy’n profi profedigaeth.

Yn ystod un o sesiynau dystiolaeth y pwyllgor dywedodd Is-Gadeirydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru bod y wlad yn wynebu “storm berffaith o salwch meddwl”.

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.