Bydd dyn a arhosodd bron i dri mis am driniaeth brys yn derbyn miloedd o bunnoedd oddi wrth fwrdd iechyd y gogledd.

Oherwydd yr holl oedi gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bu’n rhaid i Mr Y – mae ei enw yn anhysbys – droi at driniaeth breifat yn y pen draw.

Dylai fod wedi derbyn triniaeth am ganser y prostad o fewn 62 diwrnod ond mi fethwyd y targed gan 106 diwrnod.

Mae’r bwrdd wedi cytuno talu £8,171 i’r gŵr i wneud yn iawn am gostau’r driniaeth breifat, ac mi fyddan nhw’n darparu ymddiheuriad ysgrifenedig iddo.

Ymateb yr Ombwdsmon

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett, wedi tynnu sylw at y sefyllfa mewn adroddiad diweddar, ac wedi dweud ei fod yn “annerbyniol”.

“Ni ellir tanbrisio’r effaith seicolegol ar y claf,” meddai.

“Ni ddylai fod wedi cael ei roi mewn sefyllfa lle roedd yn teimlo nad oedd ganddo unrhyw ddewis ond talu miloedd o bunnoedd am driniaeth breifat.

“Gadawyd Mr Y â dewis plaen; aros am driniaeth heb wybodaeth pa effaith y byddai hynny yn ei gael ar ei brognosis a’i driniaeth yn y dyfodol, neu dalu am driniaeth breifat i liniaru’r ansicrwydd.

Cefndir a chamau pellach

Cafodd Mr Y ei gyfeirio at wasanaethau ysbyty ym mis Mai 2019.

Clywodd ar Awst 13 mai tri mis oedd yr amser aros, ac yn sgil hynny mi fynnodd wasanaeth preifat. Derbyniodd lawdriniaeth ar ddiwedd mis Awst 2019.

Mae’r ombwdsmon hefyd wedi cael gwybod am 16 claf arall a oedd – mae’n bosib – yn aros am gyfnod hirach na’r targed. Mae bellach wedi lansio ymchwiliad i’r mater.

Bydd y Bwrdd Iechyd yn sefydlu grŵp ‘gorchwyl a gorffen’ i adolygu’r gwasanaeth wroleg i adnabod meysydd lle gall wella’r ffordd y mae’n darparu’r gwasanaeth.