Yn ystod y mis ers ymadawiad Dominic Cummings, mae Llywodraeth Cymru wedi gweld gwelliant yn y cydweithio rhyngddi hi a Llywodraeth San Steffan.

Dyna ddatgelodd Mark Drakeford wrth golwg360 yn ystod ei gynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw – sesiwn lle gyhoeddodd newidiadau rheolau Covid.

Bron i fis yn union yn ôl mi wnaeth Dominic Cummings, Prif Ymgynghorydd Boris Johnson, adael 10 Downing Street yn sgil ffraeo mewnol yng nghalon Llywodraeth San Steffan.

Roedd cryn ddyfalu y byddai ei ymadawiad yn arwain at newid yn y ffordd y bydd Prif Weinidog yn Llundain yn bwrw ati â’i waith –  e.e tôn llai ymosodol, a mwy o awydd i gydweithio.

Trwy gydol yr argyfwng mae Prif Weinidog Cymru wedi bod yn cwyno am y berthynas letchwith â Llywodraeth San Steffan, ond yn siarad heddiw dywedodd bod pethau wedi newid er y gwell.

“Rydym ni wedi gweld newid dros y mis diwetha’,” meddai. “Dw i ddim yn siŵr pam bod hynna wedi digwydd.

“Dw i wedi trio perswadio Llywodraeth y Deyrnas Unedig, dros gyfnod y coronafeirws i gyd, jest i roi mwy o gyfleon i ni ddod at ein gilydd mewn ffordd sydd yn ddibynadwy.

“A dyma beth rydym ni wedi ei weld dros y mis diwetha’. Rydym wedi cwrdd bob wythnos – mwy nag unwaith – am nifer o wythnosau. Dw i’n croesawu hynna.

“Mae’n help – fel oeddem ni’n ei ddisgwyl – jest i glywed beth sy’n mynd ‘mlaen yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig, i rannu gwybodaeth, i rannu beth sy’n mynd ymlaen gyda ni, a thrwy hynny i wneud y penderfyniad gorau yr ydym ni gyd yn gallu gwneud.”

Ddwedodd y Prif Weinidog ddim mai ymadawiad Dominic Cummings oedd yn uniongyrchol gyfrifol am y newid yma.

Cynadledda

Mae cryn drafodaeth wedi bod yn yr Alban ynghylch cynadleddau wasg y Llywodraeth SNP yno, a’r posibiliad y bydd yr SNP yn elwa o’r sylw yn y blychau pleidleisio.

Daeth tro pedol gan BBC yr Alban ym mis Medi, wedi iddyn nhw awgrymu yn wreiddiol y byddan nhw’n cefnu’n rhannol ar ddarlledu cynadleddau’r wasg y Llywodraeth.

Roedd y gorfforaeth yno yn pryderu am feias gwleidyddol – mae etholiadau Senedd yr Alban (fel ein Senedd ninnau), wrth gwrs, yn prysur nesáu.

Mae’r Arglwydd George Foulkes – aelod o’r Blaid Lafur yn yr Alban – wedi galw ar i Ofcom ymchwilio i’r darllediadau wrth i etholiadau Holyrood nesáu.

Holwyd Mark Drakeford os oedd yntau’n teimlo bod yr etholiadau yn rhoi mantais annheg a hwb i broffil y Blaid Lafur wrth i etholiadau’r Senedd nesáu.

Dywedodd wrth golwg360 ei fod yn anghyfarwydd â’r ddadl yn yr Alban, ond pwysleisiodd bod y Llywodraeth yn ymdrechu i sicrhau tegwch i’r gwrthbleidiau lle bo hynny’n bosib.

“Fel Llywodraeth rydym ni wedi rhoi cyfleon i arweinydd yr wrthblaid ac i arweinydd Plaid Cymru ddod i mewn a chael sgwrs gyda’n swyddogion uwch ni i glywed oddi wrthyn nhw am y sefyllfa rydym ni’n wynebu,” meddai.

“A dw i wedi trio, bob tro rydym ni’n wynebu penderfyniadau mawr, i rannu beth sydd y tu ôl i’r penderfyniadau yna, ac wedi rhoi amser i arweinwyr y pleidiau eraill [i’w gweld] cyn eu gwneud yn gyhoeddus.”