Wrth i’r trafodaethau barhau, mae’r gofid ynglŷn ag effeithiau posib Brexit digytundeb ar y farchnad cig oen yng Nghymru yn dwysáu.
Mae traean o gig oen y wlad yn cael ei allforio’n flynyddol, gydag 90% o hynny’n cael ei allforio i’r Undeb Ewropeaidd.
Yn ôl rhai ffermwyr mynydd yn ardal Eryri, byddai cael eu cau allan o farchnad sengl fwyaf y byd yn drychinebus i’w dyfodol.
Er hynny, mae rhai o’r farn bod amaethyddiaeth yn cael ei ddefnyddio fel “pawn” yn y ddadl – a’u bod yn teimlo’n hyderus y bydd cytundeb yn cael ei gyrraedd yn y pendraw.
“Byth yn meddwl byddai hyn yn digwydd”
“Mae o’n dorcalonnus,” meddai Gareth Wyn Jones, sy’n ffermio yn Nhyn Llwyfan ar fynyddoedd y Carneddau.
“Mae’r tariff maen nhw’n sôn am – 60% ar gig oen a 30% ar gig eidion – ’sa hynny’n lladd y job.”
Er iddo ddweud bod mudiadau fel Hybu Cig Cymru yn chwilio am farchnadoedd eraill, dywedodd fod ansicrwydd y sefyllfa yn gwneud hi’n anodd blaengynllunio.
“Mae o’n gur yn ben,” meddai, “dwi’n nabod ffermwyr sydd wedi gwneud planiau busnes dros bymtheg, ugain mlynedd ac sydd wedi rhoi bob dim i mewn… a byth yn meddwl byddai hyn yn digwydd.
Rhybuddiodd y byddai Brexit digytundeb yn cael effaith pellgyrhaeddol ar y gymuned amaethyddiaeth yng Nghymru, gan gynnwys cwmnïau peiriannau, milfeddygon, lladd-dai a chigyddion.
“Amaethyddiaeth ydi calon y gymuned,” meddai.
“Ma’ hi wedi bod yn flwyddyn dda i ni fel diwydiant… a dwi jyst teimlo bydd rhaid i ni gael rhyw fath o deal i ni wneud yn siŵr bod ffermydd bach cefn gwlad yn medru dal i fynd.”
“Dydw i ddim yn colli cwsg dros y peth”
Wrth drafod y posibilrwydd o beidio cyrraedd cytundeb, dywedodd Alun Thomas sy’n ffermio yn Nhyn Hendre, Abergwyngregyn:
“Mae o’n poeni fi i raddau,” meddai, “ond dydw i ddim yn colli cwsg dros y peth.”
Dywedodd Alun Thomas ei fod yn teimlo’n hyderus y bydd cytundeb yn cael ei gyrraedd ar y funud olaf.
“I mi yn bersonol, dydw i ddim yn gweld Ewrop yn stopio delio hefo ni, mae hi’n gweithio mewn mwy nag un ffordd, dim ddim ond hefo amaethyddiaeth, hefo ceir… popeth.”
“Yr unig beth mae’r rhain yn ei wneud ydi gwneud eu hunain swnio’n bwysig.
“Maen nhw’n defnyddio ffarmio fel pawn i chwarae gemau – malu awyr maen nhw, dyna ydi fy marn i.”
“Effaith andwyol ar economi cefn gwlad Cymru”
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn “drychinebus” i’r diwydiant ac i gymunedau cyfan ledled Cymru.
“Fy ngweledigaeth i erioed, yw pwysigrwydd gael amaeth cynaliadwy mewn cymuned gynaliadwy,” meddai Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts wrth golwg360.
“Os ydi hynny’n mynd i gael effaith andwyol yn economaidd ar y diwydiant amaeth, mae o felly yn mynd i gael effaith andwyol ar yr economi yng nghefn gwlad Cymru.
“Os nad oes yna economi, yna fedrwn ni ddim cadw pobol… ac felly fedrwn ni ddim cadw ein diwylliant nag ein hiaith.”
“Dysgu drwy hanes”
“Mae’n rhaid i bawb ddysgu drwy hanes, yn ôl yn 2002 adeg y clefyd traed a’r gennau mi stopiwyd ni rhag allforio wyn i Ewrop ac mi ddisgynnodd pisiau wyn yn isel iawn,” meddai Glyn Roberts.
“Yr adeg hynny, daeth y traed a’r gennau dros nos, doedd neb yn gallu gwneud dim am y peth, ond rŵan, mae’r Llywodraeth wedi cael tair blynedd i wneud yn sicr nad ydi hynny’n cael ei ailadrodd eto.
“Does ’na ddim byd gwaeth nag ansicrwydd i fusnes, ac er fy mod un ohonyn nhw fy hun, dwi’n teimlo dros y rhai o fewn diwydiant ar hyn o bryd.”
Er ei fod o’r farn bod llygedyn o obaith yn parhau o gael cytundeb, mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn rhybuddio y byddai’r diwydiant amaethyddiaeth yn dra-gwahannol yn flwyddyn newydd, naill ffordd neu’r llall.