Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi cyhoeddi bydd asesiadau ar gyfer safon uwch a TGAU yn dechrau ar ôl hanner tymor fis Chwefror.
Wedi i’r Gweinidog benderfynu atal arholiadau haf 2021 mae grŵp o arweinwyr ysgolion a cholegau wedi bod yn gweithio ar fanylion y broses o ddyfarnu graddau.
Roedd y grŵp yn cytuno bod angen i’r system fod yn deg i bob dysgwr, ac yn hyblyg fel na fyddai dysgwyr yr amharwyd arnynt fwy nag eraill dan anfantais.
Bydd asesiadau mewnol yn cael eu cynnal rhwng Chwefror ac Ebrill ac asesiadau allanol yn cael eu cynnal rhwng Mai a Mehefin.
“Mae’n sicrhau y gall prifysgolion fod yn hyderus yng ngallu myfyrwyr o Gymru ar sail eu cymwysterau,” meddai Kirsty Williams.
“Roedd yn glir i mi fod yn rhaid i unrhyw opsiwn gadw lles ein dysgwyr mewn golwg.
“Rwy’n teimlo’n fodlon bod gennym ddull gweithredu sy’n deg i bob dysgwr, sy’n lleihau ar yr un pryd ar y tarfu ar ddysgu, ac sy’n cynnal hyder ac ymddiriedaeth yn integriti cymwysterau yng Nghymru.
“Rwy’n hyderus hefyd bod y cynlluniau hyn yn lleihau’r effaith ar lwyth gwaith athrawon – mae athrawon a darlithwyr eisoes o dan bwysau mawr, ac nid ydym am ychwanegu at hyn.”
‘Cynnig sicrwydd i ddysgwyr ac athrawon’
Mae gweinidog cysgol y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg, Suzy Davies, wedi croesawu’r cyhoeddiad.
“Dyma’r oeddem yn ei ddisgwyl ac yn gobeithio amdano, hynny yw cyfuniad o asesiadau mewnol presennol, rhai wedi’u gosod yn allanol ond wedi’u hasesu’n fewnol, a rhai wedi’u gosod yn allanol a’u marcio’n allanol,” meddai.
“Mae’r elfen o sicrwydd allanol mor bwysig.
“Mae’n golygu y bydd cysondeb ledled Cymru er y bydd disgyblion yn cael eu hasesu ar wahanol adegau.
“Mae hefyd yn bwysig cynnal hyder yn y system, a thrwy hynny amddiffyn athrawon rhag cyhuddiadau o ogwydd neu o ddiffyg hyfforddiant.”
Mae Suzy Davies hefyd wedi galw ar y Gweinidog Addysg i ddarparu mwy o wybodaeth am y broses asesu a sut y caiff apeliadau eu rheoli.
“Arholiadau ym mhob agwedd ond enw yw asesiadau allanol”
Wrth ymateb, mae Plaid Cymru wedi dweud bod rhoi “gormod o bwyslais ar asesiadau allanol yn annheg”.
Dywedodd y llefarydd cysgodol dros Addysg, Siân Gwenllian AoS:
“Mae rhoi gormod o bwyslais ar asesiadau allanol yn annheg a bydd yn achosi anghydraddoldebau pellach i ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig.
“Mae Panel Adolygu Annibynnol Louise Casella wedi tynnu sylw at yr angen i roi’r disgybl wrth wraidd y system addysg ond mae defnyddio asesiadau allanol fel rhan fawr o’r trefniadau dyfarnu ar gyfer 2021 yn mynd yn groes i’r cyngor hwnnw.
“Mae Plaid Cymru wedi dadlau’r achos dro ar ôl tro y dylid disodli trefniadau 2021 gyda graddau canolfannau asesu.
“Mae cymaint o ddysgwyr wedi wynebu absenoldebau hir o’r ysgol oherwydd hunanynysu, nerfusrwydd wrth fynychu’r ysgol mewn ardaloedd lle mae nifer uchel o achosion, neu fod yn sâl eu hunain.
“Arholiadau ym mhob agwedd ond enw yw asesiadau allanol.
“Nid yw’n glir o gwbl sut y bydd hyn yn gweithio’n ymarferol ac rwy’n poeni bod gormod o bwyslais unwaith eto yn cael ei roi ar y cymhwyster ar draul tegwch i’r disgyblion yn y cyfnod hynod anodd hwn.”