Mae Cymru’n wynebu “storm berffaith o salwch meddwl” ac “mae’r gwaetha’ i ddod”.

Dyna ddywedodd Dr Clementine Maddock, Is-Gadeirydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru, gerbron un o bwyllgorau’r Senedd fore ddoe.

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wrthi’n casglu tystiolaeth am effaith covid-19 ar iechyd yng Nghymru.

Ac wrth drafod yr effaith ar iechyd meddwl, rhannodd yr Is-Gadeirydd ei phryderon am allu ei chydweithwyr i ymdopi â’r straen sydd eto i ddod.

“Rydym yn poeni, fel seiciatryddion a choleg, am ei bod hi’n medru bod yn hynod o anodd recriwtio pobol i lawer o swyddi iechyd meddwl,” meddai.

“A dw i’n credu ein bod yn mynd i brofi cynnydd mewn pobol sy’n ddifrifol wael. Mae seiciatreg – fel sector gofal eilaidd – yn delio â phobol gyda salwch meddwl difrifol a thymor hir.

“Rydym yn medru disgwyl cynnydd. Ond mae ein gwasanaethau eisoes dan straen. Felly dw i’n credu ei fod yn bwysig iawn bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi [yn hyn o beth].”

Stori “ofnadwy” am hen ddynes

Wrth roi tystiolaeth, tynnodd sylw at effaith “ddychrynllyd” yr argyfwng ar iechyd meddwl y cyhoedd, ac at stori ddirdynnol am hunanladdiad hen ddynes.

“Rydym yn gwybod yn iawn o lawer o ymchwil fod ynysu cymdeithasol yn ffactor mawr pan ddaw at iselder a hunanladdiad,” meddai.

“Mae cydweithwyr wedi adrodd bod mwyfwy yn rhoi cynnig ar hunanladdiad a hunan-niwed – pobol ifanc ac oedolion hyn.

“Dw i’n ymwybodol o un stori hynod o ofnadwy am ddynes oedrannus a fuodd ar ei phen ei hun dan glo am gwpwl o fisoedd, a wnaeth hi roi ei hun ar dân.”

Llygedyn o obaith

Roedd gan Dr Clementine Maddock ambell sylw fwy positif, a thynnodd sylw at y ffaith fod “rhwydweithiau teuluol yn dal i fod yn gryf yng Nghymru”.

Mae’r rheiny sydd heb deulu yn medru dibynnu ar gymdogion a ffrindiau am gymorth, meddai, ac awgrymodd fod hyn yn helpu wrth ymdrin â salwch meddwl.

Os ydych chi’n ystyried hunanladdiad, neu os oes angen cymorth emosiynol arnoch, cysylltwch â’r Samariaid ar eu llinell cymorth Cymraeg 0808 164 0123, neu trwy’r Saesneg ar 116 123.