Mae ymchwil gan yr elusen Chwarae Teg wedi datgelu effaith y pandemig a’r cyfnod clo ar fywydau menywod yng Nghymru.

Cafwyd dros 1,000 o ymatebion i’r arolwg a oedd yn dangos bod Covid-19 hefyd wedi amlygu’r anghydraddoldeb rhwng menywod a dynion.

“Mae’r pandemig hwn wedi datgelu difrifoldeb anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac wedi’i waethygu, gyda chanlyniadau angheuol i lawer,” meddai Cerys Furlong, prif weithredwr Chwarae Teg.

Mae’r ymchwil yn dangos bod menywod yn fwy tebygol o fod yn gwneud gwaith â chyflog isel ar gontractau ansicr mewn sectorau sydd wedi’u cau oherwydd y feirws.

Roedd menywod yn treulio dwywaith gymaint o amser yn addysgu’u plant gartref o gymharu â dynion ac roedden nhw ddwywaith yn fwy tebygol na dynion o fod yn weithwyr allweddol ystod y pandemig.

Anghydraddoldeb

Eglurodd Cerys Furlong nad oedd effaith y feirws ar fenywod, yn enwedig menywod croenliw, yn anochel.

“Mae’n ganlyniad uniongyrchol i’r anghydraddoldeb yr ydym wedi methu â mynd i’r afael ag ef, a’r rhwystrau strwythurol yr ydym wedi methu â’u chwalu,” meddai.

“Mae’r rhan fwyaf ohonom wedi cael trafferth drwy gydol yr argyfwng hwn; yn cydbwyso gwaith a bywyd teuluol, gyda phryderon ynghylch ein swyddi a chyflwr ein hanwyliaid.

“Ond yr unigolion a’r grwpiau hynny sydd eisoes wedi wynebu’r rhwystrau mwyaf, y rhai a oedd yn y sefyllfaoedd mwyaf ansicr o ran eu gwaith, eu hincwm a’u bywydau teuluol, sydd wedi dioddef fwyaf.

“Ni allwn barhau i ganiatáu’r anghydraddoldeb hwn. Rydym angen adferiad ffeministaidd a rhyngblethol o Covid-19.

“Un sy’n deall ac yn cael ei lywio gan brofiadau amrywiol menywod, ac sy’n blaenoriaethu eu hanghenion wrth i ni ailgodi’n gryfach.

“Rydym eisiau creu normal newydd, lle mae gwaith menywod a phrofiadau menywod yn ganolog i wneud penderfyniadau.”

Ffyrlo yn brofiad negyddol i fenywod

Mae’r adroddiad yn dangos bod cynllun ffyrlo’r llywodraeth wedi bod yn brofiad negyddol i fenywod, a oedd yn gadael bwlch sylweddol yn eu hunaniaeth.

Bydd y cynllun arbed swyddi yn dod i ben ddiwedd mis Hydref.

Dim ond 33.6% o ymatebwyr yr arolwg oedd wedi’u rhoi ar ffyrlo oedd yn credu y bydden nhw’n dychwelyd i’w rôl flaenorol.

Roedd achosion hefyd o fenywod a wrthododd fynd ar ffyrlo oherwydd ofnau am sut y byddai’n effeithio ar gynnydd eu gyrfa.

Roedd menywod a oedd neu a ddaeth yn ddi-waith yn ystod y pandemig, yn poeni’n fawr am eu hincwm, gyda’r system fudd-daliadau yn anhyblyg ac yn methu â diwallu eu hanghenion.

Effeithiau cadarnhaol

Fodd bynnag, tynnodd yr ymchwil sylw at rai pethau cadarnhaol hefyd.

Er bod profiadau o weithio gartref yn gymysg, roedd menywod a oedd yn gallu gwneud hynny’n cydnabod bod hyn yn eu diogelu rhag risgiau iechyd ac economaidd mwyaf y pandemig.

Mae llawer o fenywod hefyd wedi mwynhau manteision gweithio gartref, yn enwedig yr hyblygrwydd, ac yn gobeithio y byddan nhw’n gweld newid parhaol o ran ffyrdd o weithio.