Mae lleoliadau cerddoriaeth fyw yn wynebu “bygythiad difrifol” ac mae angen gweithredu nawr neu wynebu colli lleoliadau ar lawr gwlad “am byth”.
Dyna rybudd un o bwyllgorau’r Senedd sy’n gawl ar Lywodraeth Cymru i roi cefnogaeth ymarferol ac ariannol i leoliadau ac arwydd clir pryd y gall digwyddiadau byw ailgychwyn,
Mewn adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu heddiw, (dydd Gwener 18 Rhagfyr), mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen ar gyfer ailagor lleoliadau cerddoriaeth fyw mewn ffordd ddiogel a chyfrifol.
Mae’n annog Llywodraeth Cymru i edrych yn greadigol ar syniadau fel gigs awyr agored sy’n cadw pellter cymdeithasol. Dylai’r cynllun gynnwys digwyddiadau diwylliannol eraill, fel theatr a dawns, yn ogystal â cherddoriaeth fyw, yn ôl y pwyllgor.
Y pandemig wedi “cyflymu problemau”
Cyn y pandemig, roedd y diwydiant yn wynebu sawl her, meddai’r adroddiad, ac roedd Cymru eisoes wedi colli sawl lleoliad dylanwadol fel y Parrot yng Nghaerfyrddin, TJs yng Nghasnewydd, Gwdihŵ a’r Point yng Nghaerdydd.
Gwelodd y Pwyllgor fod cynnydd mewn rhent ac ardrethi busnes yn broblem a bod rhai yn wynebu heriau oherwydd cwynion sŵn neu ddadlau am geisiadau cynllunio.
Mae’r Pwyllgor hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried a oes angen cefnogi’r diwydiant i greu mwy o weithgarwch digidol, ac i gynnig man canolog o gynnwys diwylliannol digidol Cymru, er maen nhw’n rhybuddio na ddylid dibynnu ar hyn fel datrysiad tymor hir.
“Canolbwynt creadigol y wlad”
Yn ôl Helen Mary Jones AS, Cadeirydd dros dro y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: “Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom am bwysigrwydd lleoliadau cerddoriaeth fyw fel canolbwynt creadigol y wlad, i les pobl a’r economi leol. Er mwyn cefnogi hyn, mae angen i Lywodraeth Cymru roi arwydd clir ynghylch pryd y gallan nhw ddechrau cynnal digwyddiadau eto.”
Ychwanegodd: “Mae’n gynyddol anodd cyfiawnhau pam, er enghraifft, bod tafarndai a sinemâu yn gallu agor, ond does dim modd caniatáu perfformiadau cerddoriaeth fyw, gyda’r amod eu bod yn cael eu trefnu yn ôl yr un rheolau pellter cymdeithasol â’r lleoliadau eraill.
“Er bod cynnal digwyddiadau sy’n cadw pellter cymdeithasol yn annhebygol o fod yn broffidiol, mi fydd yn rhoi rhywfaint o gefnogaeth i artistiaid a gweithwyr diwydiant sydd wedi dioddef oherwydd diffyg incwm.”
“Os bydd lleoliadau yn cau ac yn methu â symud i rywle arall, byddant yn cael eu cau am byth. Mae angen i’r sector cyhoeddus – gan gynnwys Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol – gydnabod y bygythiad dirfodol i gerddoriaeth fyw, a gweithredu cyn ei bod hi’n rhy hwyr.”