Mae’r triawd pop bytholwyrdd Eden am fod yn cynnal ‘disco cegin’ dros y Dolig, a hynny er mwyn codi arian at achos da.
Er bod perfformiad y band ar Nos Galan am fod am ddim i’w wylio ar y We, mi fydd Eden yn gwadd cyfraniadau at Gronfa Banc Bwyd Cymru.
Y gobaith yw codi £2,021 at wasanaethau banciau bwyd sy’n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru i helpu bwydo pobol sy’n ei chael yn anodd dal dau ben llinyn ynghyd.
Hefyd mae Eden yn bwriadu rhyddhau cân newydd yn y flwyddyn newydd i godi arian at yr un achos.
Disco cegin yn Yr Egin
Yn adnabyddus am hits megis ‘Paid â bod ofn’ yn y 1990au, ail-ffurfiodd Eden yn 2017 i chwarae ar y llwyfan awyr agored ar nos Wener yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ers hynny maen nhw wedi denu ffans newydd ac mi fyddan nhw yn perfformio yn Yr Egin – pencadlys S4C yng Nghaerfyrddin, ar noson ola’r flwyddyn.
Bydd ‘disco cegin’ Eden yn cael ei ddangos ar wefan www.amam.cymru/YrEgin am ddim.
Ac i gyfrannu at Gronfa Banc Bwyd Cymru, ewch i:
www.justgiving.com/crowdfunding/eden-bancbwydcymru?utm_term=YBZB32EYK