Mae’r canwr-gyfansoddwr Casi Wyn wedi rhyddhau carol Nadoligaidd heddiw.
Fe gafodd ‘Nefolion’ ei sgrifennu i ddathlu bywyd un o gyfeillion y gantores.
“Mae’r gân yn ddathliad o’m ffrind Gwawr,” eglura Casi Wyn.
“Roedd Gwawr yn enaid arbennig iawn, yn llenwi’r ystafell â direidi a chynhesrwydd. Mae’r garol hon yn teimlo’n amserol, yn ffarwel hiraethus i bob un sydd wedi gadael y byd hwn ac wedi ymuno â’r Nefolion.
“Roeddwn i’n eistedd yn yr ardd ar ddiwrnod oer o Ionawr ac fe lifodd y geiriau imi yn union fel maent wedi eu hysgrifennu. Mae hynny’n brin, pan ymddangosa’r geiriau heb fawr o ymdrech.
“Wna’i byth orfodi dim bellach. Mae’n rhaid i’r hunan symud draw i wneud lle i rywbeth ehangach gydio yn y bensel.”
Ychwanegodd Casi Wyn: “Creu rhywbeth hardd a chelfydd oedd y bwriad – sy’n ysbrydoli eraill i deimlo gobaith. Yn enwedig felly yn ystod blwyddyn fel hon.”
Ffilm Dolig Casi Wyn
Bydd ffilm gan Casi Wyn i’w weld ar S4C dros yr Ŵyl.
Ar y cyd gyda’r animeiddiwr Efa Blosse Mason, mae’r gantores wedi creu ffilm fer animeiddiedig o’r enw Dawns y Ceirw.
Bydd y ffilm ar S4C ar noswyl Nadolig am naw ac yn cynnwys cerddoriaeth wreiddiol gan Casi Wyn.