Mae triawd talentog Adwaith wedi cael £10,000 o gronfa artistiaid i helpu gyda hyrwyddo eu halbwm nesaf, ac mae’r ffaith mai nhw yw’r band Cymraeg cyntaf i dderbyn y nawdd yn “foment fawr” i’r iaith, meddai eu rheolwr.
Mae’r band o Gaerfyrddin ymhlith 16 o artistiaid sydd wedi ennill swm o gronfa gerddoriaeth Brydeinig y ‘PPL Momentum Music Fund‘ i’w wario ar farchnata a hyrwyddo eu halbwm nesaf.
Fe gafodd eu halbwm gyntaf, Melyn, groeso brwd ac ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2019.
Ac yn ôl Gruff Owen, sefydlydd a rheolwr cwmni recordiau Libertino, dyma’r tro cyntaf i fand Cymraeg dderbyn swm o’r gronfa.
“Mae hwn yn foment fawr, ddim yn unig i Adwaith, ond hefyd i gerddoriaeth yn yr iaith Gymraeg,” meddai.
“Dw i’n credu ei fod yn dangos bod gan ddiwydiant cerddorol y Deyrnas Unedig hyder mewn artistiaid sy’n canu yn Gymraeg.
“Dylai’r hyder fod wedi bod yno, a dylai cydnabyddiaeth fod wedi’i rhoi flynyddoedd yn ôl,” meddai wedyn. “Ond allan nhw ddim ein hanwybyddu mwyach!”
“Tu hwnt i Glawdd Offa”
Mae Gruff Owen yn dweud bod ei label wedi bod yn treulio’r blynyddoedd diwethaf yn “gwthio cerddoriaeth Gymraeg tu hwnt i Glawdd Offa”.
Ac mae’n gobeithio y bydd yr arian yn helpu gwthio Adwaith yn bellach fyth.
“Mae’r albwm yma yn albwm mawr iddyn nhw,” meddai. “Ar ôl llwyddiant Melyn, mae pobol yn awyddus iawn i glywed beth yw’r cam nesa’ gydag Adwaith.
“A dw i’n credu bod yr arian yma yn ein galluogi ni i gymryd y camau at lefel arall – lefel rhyngwladol, ry’n ni’n gobeithio.
“Mae hwn yn golygu bod modd i’r band hyrwyddo’r albwm yn llawer mwy eang.”
Mae rhan helaeth o’r albwm newydd eisoes wedi ei recordio ac mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi tua mis Mehefin y flwyddyn nesa’.