I ddathlu pen-blwydd Rownd a Rownd yn 25 oed bydd pennod arbennig o’r rhaglen yn cael ei darlledu ar noson Gŵyl San Steffan ar S4C.
Ar ddechrau 2020, roedd cynhyrchwyr y gyfres yn trafod sut oedd yr opera sebon am ddathlu ei chwarter canrif ar y sgrin.
Ond wrth i’r flwyddyn ddod i ben, blwyddyn gydag egwyl o bum mis mewn cynhyrchu, bydd y tîm hefyd yn dathlu goroesi blwyddyn llawn heriau.
Yn gil pandemig Covid-19, maent wedi gorfod trawsnewid eu harferion gwaith, ac mae’r ddrama hefyd wedi symud i stiwdio bwrpasol newydd.
Adeilad newydd yn Llangefni
Mae uwch-gynhyrchydd Rondo, Bedwyr Rees, yn cyfaddef bod trawsnewid adeilad yn stiwio newydd yn risg, ond yn un mae’r cwmni yn barod i gymryd – yn enwedig gan fod Rownd a Rownd yn un o brif raglenni’r cwmni, ac oherwydd yr effaith economaidd y mae’r gyfres yn ei chael ar ogledd orllewin Cymru, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Yn bendant nid dyna oedden ni wedi’i ragweld ym mis Ionawr,” meddai’r uwch gynhyrchydd Bedwyr Rees o gwmni cynhyrchu Rondo Media.
“Fe wnaethon ni stopio ffilmio’n llwyr rhwng mis Mawrth ac Awst, ac oherwydd ein bod ni’n arfer ffilmio mewn cartrefi a thai preifat yn Ynys Môn, fe wnaethon ni benderfynu cymryd adeilad newydd yn Llangefni lle byddwn ni’n adeiladu’r setiau mewnol o hyn ymlaen.”
Cyfraniad “sylweddol” i’r economi leol
“Mae cynhyrchu’r gyfres yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r economi leol yn yr ardal,” esboniodd Bedwyr.
“Mae bron yr holl gyllideb flynyddol yn cael ei gwario’n lleol o fewn Gwynedd ac Ynys Môn, ac mae’r gyfres yn cynnig gwaith i 27 o gast craidd a dros 100 o weithwyr yn y diwydiant teledu yn yr ardal.”
Er gwaethaf yr egwyl o bum mis, llwyddodd y gyfres i gyrraedd holl dargedau cyflwyno ar gyfer S4C, gan ddechrau’n ôl ar y sgrin ym mis Medi.
“Roedd hynny’n heriol,” meddai Bedwyr Rees.
“Nid yn unig oherwydd y setiau ond roedd yn rhaid ail-weithio’r holl sgriptiau hefyd gyda mesurau diogelwch covid-19 mewn golwg. Ond gweithiodd pawb yn hynod o galed i gyrraedd y targedau hynny.”
Pennod pen-blwydd arbennig
Yn y bennod arbennig bydd y rhaglen yn ymweld ag Edwin Lloyd – sydd wedi cael ei chwarae gan Phylip Hughes, 83, ers 1998 – wrth iddo ailddarganfod gwir ystyr y Nadolig a gwir ystyr cymuned, gyda chymorth cymeriadau cyfredol… a rhai o gymeriadau’r gorffennol.
Er fod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i’r gyfres, mae Bedwyr Rees yn gadarn o’r farn bod rhesymau i fod yn obeithiol ar gyfer y dyfodol.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y bennod arbennig yn dod â rhywfaint o hwyl y Nadolig i’n gwylwyr ffyddlon ac ar ôl ein buddsoddiadau yn y gyfres yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni’n hyderus y bydd Rownd a Rownd yn parhau i fod yn rhan annatod o’r gymuned yng ngogledd-orllewin Cymru ac hefyd yn un o gonglfeini amserlen S4C am flynyddoedd i ddod.”
- Bydd y bennod arbennig yn cael ei darlledu am 8pm nos Sadwrn (Rhagfyr 26) ar S4C