Mae’r Eglwys yng Nghymru yn galw ar bobol i ganu Dawel Nos ar eu stepen drws heno (Rhagfyr 24).

Gan nad yw’n bosib cynnal gwasanaethau carolau mewn eglwysi eleni, mae’r Eglwys yng Nghymru eisiau adfer hen draddodiad Cymreig o ganu carolau tu allan i gartrefi.

Mae’r Eglwys yng Nghymru yn galw ar bobol i ymuno yn y canu – Carol i Gymru – ar Noswyl Nadolig, trwy ganu’r garol am 7 o’r gloch.

Adrodd stori’r Nadolig

Meddai un o’r trefnwyr, y Parchedig Kevin Ellis, ficer Bro Eleth yn Esgobaeth Bangor, mae’r canu yn ffordd syml ac effeithiol o ddweud wrth bobol am stori’r Nadolig.

“Gobeithio y bydd Carol i Gymru, yn y cyfnod rhyfeddaf yma ac mewn un eiliad, yn dwyn pobl at ei gilydd, er ein bod ar wahân.

“Mae ‘Dawel Nos’ yn ein helpu i ganolbwyntio ar rodd bywyd a pha mor fregus yw hwnnw wrth i ni eto fyw, caru a chwerthin gyda’r baban Iesu.”

Cafodd Dawel Nos ei dewis fel y garol i Gymru gan nad yw’n deillio o’r Gymraeg na’r Saesneg, cafodd ei chyfansoddi yn Awstria ac mae hi’n garol sy’n gyfarwydd mewn nifer o ieithoedd.

Mae Esgob Eglwys Efengylaidd Lutheraidd yr Almaen wedi galw ar bobol yr Almaen i gyd-ganu’r garol heno, hefyd.

“Gobaith a llawenydd”

“Eleni, gyda’r bygythiad o gyfnodau clo a chyfyngiadau uwch ein pennau, mae’n gysur gwybod y gallwn ddal i uno ag eraill, trwy ddychwelyd at ein gwreiddiau yng Ngwlad y Gân a dathlu’r Nadolig mewn ffordd draddodiadol, gan godi ein lleisiau ar draws ein pentrefi a threfi i ledaenu llawenydd a heddwch ar draws Cymru a thu hwnt,” dywedodd y cyd-drefnydd, y Parchedig Rebecca Sparey-Taylor, sy’n Offeiriad Cyfrifol yn Ardal Cehadaeth Dinbych.

Ychwenegodd Esgob Bangor, Andy John:

“Rwy’n falch iawn bod yr Eglwys yng Nghymru yn gallu cefnogi’r cynllun hwn ac rwy’n gobeithio y bydd cymaint o bobl ag sy’n bosibl yn ymuno. ‘Dawel Nos’ yw un o’n hoff garolau ac mae’n sôn am rywbeth cryf a disglair mewn cyfnod anodd.

“Bydd yn rhoi gobaith a llawenydd i lawer o bobl ac yn ein hatgoffa bod goleuni Duw yn gryfach na’r tywyllwch.”

  • Bydd Radio Cymru yn chwarae cyfeiliant Dawel Nos am 7 o’r gloch heno, neu mae posib gweld y gerddoriaeth yma.