Mae’n debyg fod sawl ohonon ni wedi gofyn ymhle ’roedden ni i fod y ’Dolig yma. Dyma stori fer amserol gan Llŷr Gwyn Lewis, enillydd Stôl Ryddiaith Eisteddfod AmGen 2020, am yr union gwestiwn hwnnw…

Llŷr Gwyn Lewis

*

Jyst am fis Rhagfyr, mae’n addo iddi hi’i hun. Mae hi wedi hen ddileu’r ap oddi ar ei ffôn, yn fuan ar ôl i’w rhieni benderfynu eu bod nhw am ymuno â’r wefan er mwyn gallu rhannu lluniau o’r ci newydd a’r tripiau i America: y pethau sy’n llenwi’r bwlch adawodd hi o’i hôl. Ac mae hi wedi ymgadw, tan rŵan, rhag y demtasiwn i logio nôl i mewn: os ydi hi am wastio’i amser, waeth iddi wneud hynny ar TikTok ddim. Ond rŵan, mae hi angen rhywbeth i lenwi’r amser; i gysylltu â’r byd, cysylltu ag unrhyw un wir.

Eistedda wrth ei desg, y desg fu’n fwrdd bwyd, yn ddesg darlith, yn ddresal wisgo iddi dros y tri mis diwethaf: ac yn lle hefyd i osod ei thalcen ar arwyneb caled, oer, a chael crio’n iawn heb i neb weld. Unwaith, jest unwaith, yn rwbath i bwyso’n ei erbyn wrth gael shag. Wrth y ddesg honno, a’r fflat yn wag a’r oriau’n mestyn o’i blaen a dim gobaith gallu canolbwyntio ddigon i ddarllen llyfr, mae hi’n agor sgrin y laptop ac yn logio i mewn.

Ffion oedd yr olaf i fynd, bnawn ddoe, yn gwisgo’i siwmper Dolig a’i chyrn carw yn barod. Mae pawb arall wedi hen ’madael: rhai’n llawn brafado herfeiddiol i gyd, yn nannedd y gyfraith: ‘ma’r peth yn insane siŵr. Fedran nhw’m cadw ni yma fatha bo ni’n inmates. Second rate citizens. A eniwe dwisio cinio dolig Mam.’ Eraill yn gwneud rhyw hanner esgus a chyfiawnhau, fwy iddyn nhw’u hunain na neb arall: maen nhw wedi hunanynysu am ddeng niwrnod felly mi ddylen nhw fod yn iawn, a phrin ydi’r patrols heddlu sha’r west. Ond mae rhywbeth wedi’i chadw hi rhag mynd, hyd yma, rhywbeth y mae hi ar fedr ei alw’n gydwybod.

Er ei bod hi’n rhynnu a’r gwres mlaen – o leia mae’r awdurdodau wedi gadael hynny o drugaredd iddi, a heb ddiffodd y gwres – mae’n agor y ffenest ryw fymryn, i gael cyffwrdd y niwl ac i deimlo murmur y ddinas yn boddi synau ei phen ei hun. Sŵn deusain trwynol corn trên, ac yna’n nes mlaen, ymhellach i ffwrdd, bws a char yn gweiddi ar ei gilydd. Islais moduron pobl yn mynd i rywle. Mae’r awyr yn llwyd a’r colomennod yn rhes lonydd uwch onglau’r adeiladau petryal diwyneb hynny sy’n britho’r strydoedd rhwng fan hyn a chanol y ddinas. Fel arfer, mi fyddai hi’n gallu gweld congol o olwyn fawr y Winter Wonderland yn troelli odd’yma, ac er mor taci oedd y cyfan mi fyddai wedi codi’i hwyliau hefyd, yn las wyn llachar uwch Neuadd y Ddinas ac yn codi blys arni am glühwein drud, sicli, llawer rhy felys. Eleni, dim ond tŵr yr eglwys sy’n tarfu ar y llinellau syth ac yn ei hatgoffa bod y fath beth â cherrig oer a dŵr croyw ac achubiaeth i’w cael.

Nôl at y sgrin, a dechrau sgrolio er mwyn cael anghofio. Daw ar draws rhyw grŵp cymunedol lleol sy’n pasa ffurfio patrol i hel y sbwriel o’r parc bob gyda’r nos, yn y gobaith hefyd o rwystro rhyw lafnau ifanc rhag ymhel o amgylch y cyrtiau tennis. Ambell aelod brwd wedi mynd ati eisoes i brynu festiau hei-fis mewn amrywiol feintiau a larymau personol, ac wedi morol am rota hefyd. Mae un arall wedi datgan bod crogi’n rhy dda i unrhyw fastad sy’n gadael i’w gi gachu yn y parc, ond mae gweddill y grŵp wedi penderfynu anwybyddu’r sylw hwnnw’n dawel bach.

Ffrindiau i’w rhieni, yn dal i gwyno am Brexit. We lost, get over it

A phwy ydi’r rhain, fel rhyw ddoethion modern yn dod â’u hanrhegion? Pobol oedd mewn swyddi saff mewn swyddfeydd yn propio’r Gymraeg i fyny tua’r adeg yma llynedd, ond a adawodd y rheini er mwyn cychwyn busnes crefftau, neu fusnes jin, neu fusnes Yoga Cymraeg (ynteu ioga ddylai hwnnw fod?) – cyn cael eu taro gan bandemig, y cr’aduriaid. Welodd neb mo hynny’n dod. A dyma nhw rŵan i gyd yn trio hwrjio’u stwff yn wyllt at yr ŵyl yn y gobaith dall o oroesi tan y gwanwyn. Hynny, am yn ail â’r beirdd a’r awduron yn fflogio’u cyfrolau sy’n ‘myfyrio ar gyfnod y clo, cyfnod na bu ei debyg yn ein hoes’. Dim raid i’r bygars yna boeni am eu jobs nagoes.

Sgrôl arall: ryseitiau lu, cerddorion wedi recordio fideos, covers rif y gwlith yn dew gan hiraeth am oes symlach, a nifer amheus o uchel o bobl sydd wedi cyfansoddi, sgrifennu, recordio, ffilmio a chynhyrchu eu carol arbennig eu hunain at yr ŵyl eleni. Pobl sydd â gormod o amser ar eu dwylo, mae hi’n meddwl, cyn dallt bod rhywun wedi cychwyn cystadleuaeth am y garol orau. Clic ar ambell un i weld sut siâp sydd arnyn nhw: production values uchel iawn, chwara teg; mae yma ambell i fidl-êt go snasi, ac mae arni ofn dal clefyd siwgr wrth wrando ar ambell un. Pob un ohonynt ryw funud a hanner yn rhy hir i gael eu chwarae ar Radio Cymru.

Yna’n ddirybudd, mae gwaelod y sgrin yn fflachio’n las, i arwyddo bod ganddi neges newydd. Pwy ar y ddaear fyddai’n cysylltu â hi dros hwn bellach, a’i ffrindiau coleg a’i chydnabod i gyd ar instagram a twitter?

Neges fer, foel:

Dolig llawen del. Ti’n iawn ersdalwm?

Gyda hynny mae’n cau sgrin y laptop ac yn edrych allan drwy’r ffenest eto. Gwêl ambell nico’n ymgasglu ar lein deligraff wrth gefn un o’r tai draw acw, yn fflachio’n Nadoligaidd o goch a melyn yn erbyn y llwyd a’r brown. Mae’r pang o hiraeth bron yn anorchfygol, ac mae hi, bron, bron iawn, â hel ei phac yr eiliad honno a chodi a mynd am orsaf Queen Street, mwgwd mlaen, ac i’r diawl ag unrhyw reol na deddf.

Ond mae rhywbeth yn ei chadw yn union lle mae. Daeth i’r ddinas hon am mai mewn dinasoedd y mae pobl yn ymgasglu, yn hel at ei gilydd i greu pethau, da a drwg a phobman yn y canol hefyd. I greu celf a theatr, i daranu miwsig yn hwyr y nos ac i hishtio’r bore mewn amgueddfeydd, i ddawnsio a chicio a syrthio mewn cariad; i deimlo’n agos at bobl eraill ac at eu posibiliadau di-ben-draw. Ac fe dynnwyd y pethau hyn i gyd oddi arnynt eleni: oddi ar y ddinas ac oddi arni hi, yno, yn ei chanol yn newydd ac yn llawn aros, ac mae hi’n flin, yn chwerw sobor flin am hynny. Efo pwy yn union, all hi ddim dweud.

Ond mae’r goleuadau Dolig sy’n hongian hyd y stryd yn dal yn dlws, yn dlysach efallai oherwydd bod y ffyrdd mor wag. Maen nhw’n ddisgleiriach yn erbyn y tali dyddiol, cynyddol, tywyll. Ac mae hi’n aros lle mae hi gan ei bod yn teimlo, os oes rhywbeth yn rhywle sy’n bownd o ddigwydd er gwaetha hyn oll, yna yma y bydd hynny.

*