1.

Ddaru nhw ofyn i ni sgwennu fo lawr wedyn, achos falla fydd pobol isho cofio hyn, ond dwi’m yn siŵr ’dio’n syniad da mewn gwirionedd. Babi ’dio. Ddaru mi gael yr alwad i ddeud fod o ’di cyrraedd, ’di cael ei eni adra’ a faswn i’n licio piciad acw i weld o, a ’di rhywun ‘im yn licio deud na.

Ddo’th Casper a Mel efo fi, oedd yn teimlo’n rhyfadd achos be’ sy’ haru tri hen foi fatha ni yn mynd i weld babi bach newydd sbon fatha fo. O’n i heb fod yna o’r blaen. Ma’ nhw yn un o’r fflatia’ tu ôl i’r gwesty mawr ’na ar y gornel, ac roedd hwnna’n llawn bobol ddŵad ’di dod i ddathlu ’Dolig. O’dd y maes parcio’n llawn Mercs a BMWs.

“Biti na fysan nhw ’di cael lle yn fanno,” meddwn i wrth yr hogia wrth i ni basio, a dyma Mel yn atab, “Sa na’m lle i bobol ‘tha Mari a Joe Bach mewn lle fel ’na siŵr Dduw, dim hyd yn oed tasa fo’n hannar gwag. Yn enwedig efo hitha’ newydd ga’l babi.” O’dd o’n beth creulon i’w ddeud, am wn i, ond yn wir.

O’dd ’na ola’ stryd siâp seren tu allan i’w ffenest nhw, a hwnnw’n blincio fatha tasa ’na ffiws oedd isho chwthu yn rwla. Joe Bach atebodd y drws, a golwg tad newydd arno fo. Dim cwsg, a dim gobaith chwaith. Cr’adur bach.

Ddaru ni isda yn efo nhw, yn trio anwybyddu’r tamprwydd ar y walia’ a’r sŵn llygod mawr yn crafu yn y to. ‘Swn i’m yn rhoi anifeiliaid i gysgu mewn ffasiwn le, ond fel udodd Mari, doedd na’m lle arall iddyn nhw.

O’n i’n teimlo c’wilydd yn rhoi’r presant iddyn nhw – rhyw stwff ogla’ da i’r hogyn bach. ‘Swn i ’di bod well off yn prynu crud call iddo fo, neu agor ISA i’r cr’adur. Mi gysgodd o drwy’r amsar ym mreichia’ ei fam, fel tasa fo ddim cweit yn barod i wynebu’r hen fyd ’ma oedd yn gaddo dim byd ond baich.

 

2.

Pan ddaethom i’r tŷ, llawenasom o weld y baban bach, efe a elwid yn Dywysog, a daethom ag anrhegion iddo Ef, a syrthasom i lawr, ac addolom fab y dyn. Wrth weled y baban newydd-anedig, ebe un o’r doethion, “Oes ’na rwbath fedrwn ni ’neud i helpu? ‘Da ni’m yn licio gweld chi fel ’ma. Ma’n rhy oer i fabi bach…”

Teimlaswn yn ffôl wrth gynnig offrwm o aur i’r baban newydd, canys cadwen oer a digysur oedd y freichlen fechan a roeswn mewn amlen yn anrheg i’r Brenin. Gwell fyddai wedi rhoi offrwm o gynhesrwydd, trugaredd a chariad. Wedi cyfodi a myned ymaith, dywedodd un o’r doethion; “Ddylen ni wneud mwy. So fe’n ddigon, rhoi anrhegion dros y ’Dolig, a byw ar ffydd. Dyw ffydd yn dda i ddim heb weithredo’dd.”

Gweithredasom, canys Efe a bery i ni deimlo’n noeth ac yn ffôl gyda’n hoffrymau diamcan.

 

3.

We’n i’n credu bod hi’n edrych yn bert, er bod hi wedi blino. Ma ’da Mari un o’r wynebe’ ’na chi jest ffaelu helpu gwenu arni, ’sdim ots be’. Prin edrychodd hi lan arnon ni’n tri o gwbl – edrych i lawr ar y bachgen o’dd hi, fel ’tae e wedi dod fel sioc iddi, er iddi gael shwt amser ofnadw’ drwy’r beichiogrwydd a phopeth. “Ma’ fe’n bert,” wedes i, a gwenodd hi pan glywodd hi ’ny. O’dd e yn bert, hefyd, fel ma’ pob babi.

Wi’n gwybod fel ma’ pobol yn teimlo byti pobol fel nhw. Y bobol fawr. Ma’r bobol sy’n arwain moyn stampo nhw mas, yn enwedig pan ma’ nhw’n cael plant – ma’ nhw jest yn gweld mwy o gege i’w bwydo. ‘Da’r Universal Credit a phopeth, ma’ fel ’sen nhw’n treial lladd y plant bach i gyd cyn iddyn nhw fynd yn ddigon hen i fod yn fwrn. Dim rhyfedd fod Mari a Joe Bach yn cwato yn y tŷ bach llaith ma’, fel ‘se nhw’n galler esgus bod hyn ddim yn digwydd.

Do’s dim llawer o Dduwdod ar ôl.

“Da ni am fynd o ’ma,” medde Joe Bach wrth roi paneidie i ni. “I rwla gwell.”

Ddales i lygad Balthazar a Cas ond wedon ni ddim byd – doedd dim rhaid i ni. We’n ni’n tri’n gwybod y galler y tri ’ma fynd i Aberystwyth neu Aberdeen neu’r Aifft, ond yr un fyddai ffawd y bachgen bach ’na. Do’s jest dim lle i rai pobol yn llety’r hen fyd ’ma.

Galwon ni yn y Co-op ar y ffordd gytre, prynu cwpl o dunie’ i’w sticio yn y fasged banc bwyd. Fe ddalies i Casper yn edrych ar ferch fach yn ishte mewn troli, ei mam hi’n checio’r sticers oren ar y bwyd rhad, a roddedd e bunt lliw aur yn ei llaw fach hi a gweud; “Trugaredd ar y plant oll.” A wedodd Balthazar; “Biti ar y diawl bo’ ni’m yn trin pob plentyn bach fel merchaid a meibion Duw, ynde.”