“Beth sydd wedi bod yn wych ydy ymateb pobl ers i ni ailagor ar ôl y cyfnod clo cyntaf. Mae wedi bod yn anhygoel,” meddai Chris Harrod, cogydd a pherchennog bwyty’r Whitebrook yn Nhrefynwy.

“Dw i’n credu bod ein lleoliad ni wedi helpu. Fel arfer mae’r ffaith ein bod ni braidd yn ddiarffordd ac yn fach yn un o’r pethau sy’n rhwystro pobl rhag dod yma, ond yn amlwg roedd hynny yn rhywbeth roedd pobl eisiau yn ystod y cyfnod yma,” eglura’r cogydd sydd wedi gorfod cau drysau’r Whitebrook unwaith eto yn ystod y cyfnod clo byr diweddaraf.

Ond roedd ochr bositif i’r cyfnod clo cyntaf am ei fod yn gyfle i ddenu cwsmeriaid newydd a fyddai, fel arall, heb fentro i fwyty Michelin, meddai.

“Wnaethon ni gynnig prydau tri chwrs i bobl allu eu coginio yn eu cartrefi eu hunain ac roedd llawer o bobl leol yn gyffrous iawn am hynny. Roedd e hefyd yn cadw ni’n brysur. Dw i’n credu ein bod ni wedi denu lot o bobl oedd, efallai, ddim yn hoffi’r syniad o ddod i fwyty seren Michelin – ond mae’r agwedd yna’n dechrau newid.

“Roedd hynny yn bendant yn un o’r pethau roedden ni’n awyddus i newid pan wnaethon ni brynu’r Whitebrook. Roedden ni eisiau i’r profiad fod yn hwyl, gyda gwasanaeth llai ffurfiol.”

Cynnyrch lleol

Mae’r ffaith bod bwydlen y Whitebrook yn dibynnu’n helaeth ar gynnyrch lleol a chynnyrch sydd wedi cael ei fforio hefyd yn “helpu i wneud y profiad yn un cofiadwy achos mae pobl yn trio pethau nad ydyn nhw wedi trio o’r blaen,” meddai Chris Harrod, sy’n dathlu saith mlynedd ers iddo brynu’r bwyty.

Dim ond trwy hap y dechreuodd ddefnyddio gymaint o gynnyrch lleol yn y bwyty, a hynny oherwydd bod y busnes blaenorol – The Crown at Whitebrook – wedi cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr cyn iddo ei brynu.

“Ar ôl i fi gymryd drosodd doeddwn i methu dod o hyd i gyflenwyr oedd yn fodlon gweithio efo ni, felly roedd hynny wedi fy ngorfodi i fynd i chwilio am gynhyrchwyr lleol. Nawr mae popeth dw i’n ei brynu yn lleol – mae’r cig gan ddyn lleol sy’n angerddol am fagu anifeiliaid, ac mae’r llysiau i gyd yn rai treftadaeth sy’n cael eu tyfu gan fenyw leol. Dw i’n llenwi cefn y car gyda beth bynnag sydd ganddi, a dyna sy’n penderfynu beth sydd ar y fwydlen am yr wythnos.”

Fforio

Y diweddar Henry Ashby, fforiwr lleol yn Sir Fynwy a fu farw’r llynedd, sy’n bennaf gyfrifol am y ffaith bod cymaint o’r bwyd ar y fwydlen wedi cael ei fforio, meddai Chris Harrod.

“Pan wnes i agor y Whitebrook ro’n i’n tueddu i ddilyn y trends diweddara’ ac ro’n i’n adnabyddus am goginio bwyd Ffrengig modern. Ond doedd hynny ddim yn gweithio fan hyn oherwydd ein lleoliad, ac roedd rhaid gwneud rhywbeth fyddai’n gwneud ni’n wahanol.

“A dyna pryd wnes i gwrdd â Henry – tua phum mlynedd yn ôl daeth e mewn drwy ddrws cefn y gegin gyda llond basged o fadarch a pherlysiau roedd e wedi fforio. Fe ddangosodd e beth oedd ar gael yn lleol ac fe newidiodd hynny fy steil o goginio yn llwyr,”

Chris Harrod

eglura Chris Harrod, gan gyfaddef bod y fforiwr hefyd wedi newid ei agwedd tuag at fforio.

“Cyn i fi ddod yma, ro’n i’n credu bod fforio yn dipyn o ffad – ond pan dy’ch chi’n blasu’r gwahaniaeth mae’n anhygoel. Pan wnaethon ni ddechrau cyflwyno bwydydd oedd wedi’u fforio ar y fwydlen, fe newidiodd bopeth.

“Roedd Henry yn dipyn o gymeriad. Bydde fe’n dod a rhywbeth i’r gegin ac yn herio fi – ‘betia i bo ti ddim yn gallu gwneud dim byd efo hwn’ – a bydden i’n gorfod ffeindio ffordd i’w gynnwys ar y fwydlen!

“Gawson ni ryw bum mlynedd yn dysgu gan Henry. Roedd e’n hynod o wybodus am fforio – ond mae gan lai a llai o bobl y math yna o wybodaeth erbyn hyn ac, yn anffodus, os nad ydy’r wybodaeth yn cael ei phasio ymlaen, mae’n diflannu.”

Ond yn ystod y cyfnod clo cafodd Chris Harrod y cyfle i ddechrau dod a’r pytiau yma o wybodaeth at ei gilydd gyda’r bwriad, rywbryd yn y dyfodol, o ysgrifennu llyfr am yr hyn mae o wedi dysgu am fforio gan Henry Ashby.

“Beth sy’n hyfryd am Ddyffryn Gwy ydy, nid yn unig mae gynnoch chi’r coedwigoedd a’r afonydd, ond yr aberoedd hefyd lle dy’ch chi’n gallu dod o hyd i bethau fel betys gwyllt [sea beet], a ffenigl y môr. Mae’n gwneud y bwyd ychydig yn fwy unigryw ac mae’n ffordd i ni adrodd stori’r ardal drwy’r fwydlen.”

Llysiau ydy seren y sioe

Nid garnais yn unig ydy’r llysiau a pherlysiau ar fwydlen y Whitebrook, ond seren y sioe.

“Dw i wrth fy modd yn paratoi prydau efo llysiau ac mae’n gwneud i bobl edrych ar lysiau mewn ffordd hollol wahanol hefyd,” meddai’r cogydd.

Drwy weithio ym mwyty enwog Raymond Blanc, Le Manoir aux Quat’Saisons yn Swydd Rhydychen, y dechreuodd angerdd Chris Harrod tuag at lysiau.

“Mae Le Manoir yn tyfu llysiau eu hunain ac roedd y pwyslais wastad ar y cynnyrch gorau, felly pan wnes i agor fy mwyty fy hun dyna ro’n i eisiau gwneud hefyd,” meddai Chris Harrod, oedd wedi penderfynu ei fod eisiau bod yn gogydd pan oedd e’n saith oed.

“Dw i’n cofio gweld Raymond Blanc ar y teledu, a chogyddion fel Keith Floyd, ac roedd eu hangerdd a brwdfrydedd wedi cyffroi fi. Ar ôl i fi adael coleg es i weithio mewn gwesty pum seren yn Llundain lle’r oedd yr hyfforddiant yn eitha’ clasurol. Ond dim ond ar ôl i fi gyrraedd Le Manoir cafodd fy angerdd ei danio go-iawn. Roedd blas y bwyd yn anhygoel, a dyna dw i wedi dod gyda fi. Mae pobl yn dweud bod y blasau’n arbennig, a dyna ydy’r gamp, cael y balans ar y plât yn gywir.”

Mi fyddai’n hawdd meddwl mai cadw gafael ar seren Michelin yw’r gamp i berchennog bwyty. Ond yn ôl Chris Harrod, y cyfryngau digidol yw’r her fwyaf erbyn hyn.

“Mi gawson ni’r seren Michelin y flwyddyn gynta’ wnaethon ni agor, ac ry’n ni wedi bod yn lwcus iawn i ddal ein gafael arni ers chwe blynedd. Ond gyda’r cyfryngau ar y we, does ond rhaid i chi wneud un peth o’i le ac mae’n cael ei roi ar Tripadvisor, felly mae’n rhaid i chi fod ar dop eich gêm drwy’r amser. Mae’r pwysau wastad yna.”