Gyda channoedd o bobol wedi bod mewn gigs Nadolig y canwr poblogaidd a’i fand, maen nhw’n llygadu trip tramor i recordio albym yr haf hwn…
Roedd 2015 yn flwyddyn fawreddog i Yws Gwynedd.
Cafodd glod a gwobrwyon lu am ei albym Codi/\Cysgu a’i berfformiadau byw cyffrous.
Roedd pobol o bob oed yn heidio i’w gigs ac fe gafodd ei fedyddio yn ‘Bryn Fôn Yr Ail’ – disgrifiad sy’n anesmwytho cyn-ganwr Frisbee.
Ac yn ei fywyd personol daeth y saer coed yn dad, ac anodd fydd curo cyraeddiadau’r llynedd.
Ond mae Yws Gwynedd yn anelu at recordio’i ail albym unigol, a gwneud hynny mewn gwlad dramor dros yr haf.
Ond bydd angen trefnu bod holl aelodau’r band ar gael ac yn rhydd o ofynion eu swyddi naw tan bump.
“Be’r ydan ni’n ei wneud mewn ffordd ydy trio gwneud gigs haf a Dolig,” eglura Yws Gwynedd, “achos mae’r hogiau i gyd yn gwneud gwahanol bethau.”
Mae’r gitarydd Ifan Davies, sy’n canu i Sŵnami, yn astudio ym Mhrifysgol Bangor.
A’r basydd Emyr Prys Davies yn gwerthu yswiriant i’r undeb ffermio NFU ym Môn, “yn gweithio oriau mawr”.
Ac mae’r drymiwr Rich Roberts “yn brysur efo Stiwdio [Ferlas] ym Mhenrhyndeudraeth”.
Ond troi at greu casgliad newydd ydy’r nod eleni.
“Mae pob dim dw i wedi ei wneud hyd yn hyn wedi bod yn fi a Rich yn y stiwdio.
“Ond rydan ni’n fwy o fand erbyn hyn, yn mynd i bob man efo’r band, a jest enw fi sydd arno fo.
“A be’ fyswn i’n licio y tro nesaf yma ydy bod yr hogiau yn rhoi mwy o fewnbwn o ran sgrifennu caneuon a ballu.
“A be’ fyswn i’n licio’i wneud, ganol haf, yw mynd i rywle dramor a rhentu tŷ a stwff recordio, a recordio albym fwy neu lai yn fyw mewn rhyw ddeng diwrnod.”
Y Bryn Fôn newydd?
Yn dilyn ei berfformiadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod roedd colofnydd pop cylchgrawn Barn yn gofyn ‘Ai Yws Gwynedd ydi’r Bryn Fôn newydd?’
Nid yw’r dyn ei hun yn or-hoff o gael ei gymharu â chanwr chwedlonol ‘Gwlad y Rasta Gwyn’, ond mae’n “deall pam bod o wedi cael ei wneud”.
“Dw i’n gobeithio fod o fwy am boblogrwydd be’ mae’r band yn trio’i wneud, yn hytrach na bod y gerddoriaeth yn debyg.
“Dw i’n meddwl, a be fyswn i’n licio bod yn wahanol, ydi bo fi’n gallu bod yn genhadwr i’r Sîn Roc ifanc sy’n mynd ymlaen.
“Mae yna ormod o bobol – a dim bai Bryn ydi o – mae yna ormod o bobol sydd jest yn licio Bryn Fôn a ddim yn licio dim byd arall yng Nghymru.
“[Yn dweud] ‘O, mae miwsig Cymraeg yn shit. Ond dw i’n licio Bryn Fôn’.
“Dw i ddim yn meddwl bod hynny yn deg ar y Sîn. Felly be fyswn i’n licio gwneud dipyn bach yn wahanol ydi bod yn genhadwr a thrio cael pobol sy’n licio fi i weld bod yna stwff gwych arall yn mynd ymlaen.”
2015 – “anhygoel”
Roedd 2015 yn flwyddyn “anhygoel”, a mis Chwefror yn benodol yn gyfnod o ddathlu.
Daeth Yws Gwynedd yn dad i Eban ac o fewn wythnos roedd yn sgorio gôl tin-dros-ben i Gaernarfon yn erbyn Llandudno, a oedd ar frig y gynghrair ar y pryd.
Wedi’r gêm roedd rhaid neidio i’r car a theithio i Aberystwyth ar gyfer gwobrau roc a phop cylchgrawn Y Selar, a dathlu hat-tric.
Gorseddwyd Yws Gwynedd yn Artist Unigol Gorau’r Flwyddyn, fe gafodd ei gân ‘Neb ar Ôl’ ei dewis yn Gân Orau’r Flwyddyn a Codi/\Cysgu oedd Record Hir Orau’r Flwyddyn.
“Doeddwn i wir ddim yn disgwyl ennill,” meddai.
“Roeddwn i’n gwybod ella bo fi’n mynd i gael un, achos roedd Owain Schiavone y trefnwr wedi dweud: ‘Plis wnei di ddod lawr’. Ond doeddwn i ddim yn disgwyl cael y dair, achos dw i dipyn bach yn hŷn rŵan… ac mae miwsig yng Nghymru fel arfer yn rhywbeth i bobol iau.
“Maen nhw wedi derbyn fi am ryw reswm, a dw i’n diolch yn fawr iawn iddyn nhw am hynny.”
Ond nid oedd y noson wobrwyo heb ei drama… y bwriad oedd bod Yws Gwynedd yn perfformio gyda Sŵnami.
“Ddaru ni drio cychwyn cân dair gwaith,” cofia Yws Gwynedd, “ond roedd rhywun wedi gollwng dŵr ar un o’r plygiau ar y llwyfan… felly roedden ni’n methu perfformio, yn anffodus.”