Nid yr hen ddelwedd draddodiadol o enethod main, croenwyn sydd i’w gweld yn y darluniau diweddaraf o ferched y Mabinogi…

Ymhob un o ddarluniau newydd Seren Morgan Jones mae yna adleisiau o luniau enwog ei mam-gu o chwedlau’r Mabinogi, fel y dorch am y gwddf, a’r clustlysau o ddail y deri.

‘Goewin’

Cafodd yr artist ei hysbrydoli i greu’r gyfres newydd, Mabinogion, ar ferched y Mabinogi ar ôl mynd nôl i Aberystwyth, i’w thre enedigol, yn 2019 ar gyfer dathliadau pen-blwydd ei mam-gu, Margaret Jones, yn 100 oed.

Sylweddolodd faint o ddylanwad yr oedd y darlunydd dawnus wedi ei gael arni yn ei phlentyndod, pan fyddai hi’n arfer ei gwylio yn paentio’r chwedlau yn ei stiwdio.

Buodd yn pori drwy bortffolio ei mam-gu – neu ‘Granny’ fel mae hi’n ei galw. Un o Loegr yw Margaret Jones, a symudodd i Gymru yn 1954 ar ôl priodi Cymro a gweinidog Methodistaidd a gafodd swydd ddarlithio yn Aberystwyth.

“Ar y pryd, ro’n i’n trio gweithio mas beth o’n i’n mynd i wneud ar gyfer yr arddangosfa nesa’,” meddai Seren Jones, artist sy’n adnabyddus bellach am ei phortreadau clasurol ond cwbl gyfoes a ffeministaidd. “Mae gwaith fy mam-gu reit ar ddechrau DNA fy stwff creadigol i. O’n i’n meddwl y gallwn i gael chwarae fel plentyn eto, lle mae pawb yn dechrau efo’u bywyd celf.”

Mae gweithiau cain a hardd Margaret Jones wedi dod i ddiffinio’r Mabinogi a’r chwedlau Celtaidd yn meddwl y Cymry. Yn ogystal â chael eu hargraffu ar gloriau llyfrau fel addasiad Gwyn Thomas, Y Mabinogi, fe’u gwnaethpwyd yn bosteri a oedd i’w gweld ar waliau cenedlaethau o fyfyrwyr. Mae darluniau fel yr un o Cai a Bedwyr yn marchogaeth ar gefn Eog Llyn Lliw yn drysorau cenedlaethol, a nifer ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Aeth Seren Jones ati i ddarlunio merched y chwedlau yn ei ffordd unigryw hi ei hun ac mae’r arddangosfa ‘Mabinogion’ nawr i’w gweld yn Gallery Ten, Caerdydd.

Y gyntaf iddi ei phortreadu oedd Cigfa, gwraig Pryderi fab Pwyll o’r Drydedd Gainc. “Mi wnes i benderfynu ei wneud e’n haws i fy hunan – peidio mynd am un o’r heavy hitters, a mynd am un nad oes llawer wedi sgrifennu amdani. Ease myself in gently, felly.”

Nid y ddelwedd draddodiadol o ferched y Mabinogi sydd i’w gweld yn y gyfres newydd yma. Maen nhw’n hŷn i ddechrau, wedi byw, ac wedi brwydro. Yn fwy na hynny, maen nhw o bob lliw a llun.

“Efo pob arddangosfa dw i’n ei gwneud, mae yna sawl elfen newydd dw i mo’yn ei chyflwyno i ’ngwaith i,” meddai’r artist a raddiodd o goleg celf Central St Martins yn 2009. “Ble wnes i ddechrau oedd gyda phobol a oedd yn edrych fel fi fwya’ – gwyn, weddol on the thinner side, fy oedran i.

‘Ceridwen’

“Wedyn, ers gadael coleg, dw i wedi ceisio dod â textures a chyrff gwahanol i mewn i’r gwaith ac ehangu fy nealltwriaeth i o sut beth yw byw mewn cyrff gwahanol. Efo hwn ro’n i mo’yn edrych ar fenywod hynach, tewach…

“Efo’r casgliad yma o waith, dw i mo’yn gwneud yn siŵr bod yr hyn dw i’n ei baentio yn adlewyrchu fel mae Cymru yn edrych nawr. Nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu ddigon yn y cyfryngau yng Nghymru. Dydi hwnna ddim i ddweud bod yr hyn dw i’n ei wneud ar hyn o bryd yn gynhwysfawr, ond dw i’n ceisio ei ehangu bob tro.”

Pwy yw ‘Blodeuwedd’ a’r criw?

Nid oes un model neu wyneb penodol yn sail i’r portreadau yma – maen nhw’n bortreadau cyfansawdd o luniau y bydd yr artist eu gweld a’u casglu o’r We. Er enghraifft, mae llun wyneb ‘Blodeuwedd’ yn deillio o’r wynebau ar y cyfrifon amrywiol mae hi’n eu dilyn ar Instagram.

“Efo Blodeuwedd, mi wnes i edrych ar lot o fodelau du,” meddai. “Mae llawer iawn o bobol yn gwneud gwaith da iawn ar hyn o bryd (ar y We) yn rhoi eu hunain mas yna, yn gwneud y pwynt bod eu cyrff nhw’r un mor ddilys â’r cyrff yna sy’n cael eu gwthio i’n hwynebau ni.”

Mae hi wedi rhoi blodau’r erwain a’r banadl yn ei gwallt, a chlustdlysau o ddail y dderwen. “Yn storïau Mam-gu, y blodau yma a’r dail sy’n gwneud y corff,” meddai. “Mae’r blodau yn fân a ro’n i mo’yn cadw’r texture frizzy yna yn y gwaith, ac efo’r negligé pluog.”

Dewisodd ‘Goewin’ ar ôl darllen stori’r wyryf sy’n dioddef cam ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi. Morwyn traed i Math fab Mathonwy yw Goewin, sy’n cael ei threisio gan Gilfaethwy. Mae Math yn  cosbi Gilfaethwy a Gwydion ar ei rhan trwy eu troi yn anifeiliaid, ac yna’n gofyn am gael ei phriodi.

Cloriau’r llyfrau Y Mabinogi ac Y Brenin Arthur, ag arnyn nhw ddarluniau Margaret Jones, mam-gu yr artist

“Byddwn i’n darllen y stori a gweithio mas pa ran o’r stori ro’n i mo’yn edrych arno a gwneud snapshot ohonyn nhw,” meddai. “Ro’n i’n meddwl bod stori Goewin yn ddiddorol iawn. Mae’r ffaith ei bod hi wedi troi rownd a dweud wrth y dynion yma sydd wedi ei threisio, ‘dyna hi’… a nhw am gael eu cosbi a’u troi mewn i anifeiliaid. Ro’n i jyst yn meddwl – wel, mae hynny damed bach mwy advanced mewn rhai ffyrdd na’r ffordd mae’r Llywodraeth yn delio efo pethe fel yna nawr.

“Mae Math yn dweud, ‘mi wna i dy briodi di ac mi gei di helpu fi redeg y deyrnas’. Ro’n i’n mo’yn edrych arni hi fel menyw sydd wedi dod i lenwi rôl fel rhywun sy’n arwain. Dyna le gefais i’r syniad o’i rhoi mewn siwt, a dw i wedi cael lliw ei gwallt o un o luniau Mam-gu. Roeddwn i mo’yn dangos ei bod hi’n fenyw rywiol hefyd.”

Cyfeiriad at yr addurniadau aur sy’n frith yng ngwaith Margaret Jones hefyd yw’r dorch o amgylch gwddf Goewin, ac felly hefyd y sgarff yng ngwallt ‘Ceridwen’. Mae ‘Gwenhwyfach’ a ‘Gwenhwyfar’ yn y gyfres wedi cael eu gwallt coch o lun Margaret Jones o Gwenhwyfar yn y llyfr Y Brenin Arthur (Y Lolfa).

Mae Seren Jones yn cofio ei mam-gu yn “dwlu” ar y chwedlau. Arferai Margaret Jones roi gweithdai storïau gyda phypedau i blant ysgol, cyn dechrau ar baentio. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd hi wedi ei hyfforddi i bregethu oherwydd bod y dynion yr eglwys wedi gorfod mynd i ryfel.

“Byddai hi’n mynd o gwmpas ar ei beic ac yn gwneud y pregethau yma,” meddai Seren Jones. “Felly dyna pam bod hi’n gallu gwneud y storïau yma. Mae hi’n gwybod yn union pa ran o’r stori i’w hadrodd – bron fel cyfarwyddwr. Mae hi’n chwilio rhwng y llinellau ac yn adio mwy i’r stori i helpu llenwi mas beth sydd yn y testun.”

Mae’n deimlad braf iddi hi gael rhoi ei stamp ei hun ar ddelweddu merched y Mabinogi. “Dw i’n hoffi’r syniad yna o lineage, a fy mod i’n cael rhoi fy llais i mewn gyda’r rheiny sydd wedi gwneud lluniau o’r bobol yma o’r Mabinogi.”

Mae hi a’i theulu ar fin symud adref i Aberystwyth o Lundain, ac yng nghanol prynu tŷ ar un o strydoedd llethrog y dre. “Mae e mor gyffrous,” meddai. “Dw i wedi teimlo hiraeth dwfn iawn am Gymru ers i fi adael i fynd i’r coleg… ac mae lot o’r hyn dw i’n ei wneud oherwydd bod gyda fi’r perception yma o beth yw bod yn Gymraes, y ‘Welsh gaze’ math o beth. Mae shwt gymaint o ddiwylliant i edrych trwyddo yng Nghymru – ac mae’r Mabinogion yn glasur.”