Dyma stori fer amserol gan Llyr Gwyn Lewis, enillydd ‘Stôl Ryddiaith’ Eisteddfod AmGen 2020, yr eisteddfod rithiol a gafodd ei chynnal ar y We yn lle’r Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst eleni…

Ganol gaeaf a’r eira wedi dod i mewn mae’r mynyddoedd yn llawer mwy, rywsut. Rhywbeth i’w wneud â gallu’r gwynder i ystumio pellter a dyfnder dw i’n amau; ac wedyn pan ddaw’r cwmwl i lawr hefyd a chuddio’r copaon, bron nad ydi bryniau Eryri’n cymryd arnynt raddfeydd Himalayaidd. Po leiaf o’r mynydd y gallwch ei weld, y mwyaf mae’n ymddangos: dyna’r rhyfeddod. Mae’n fwy nag y gallwn ei ddirnad, yn llenwi’r dychymyg. Thâl hi ddim ar dywydd fel hyn i feddwl am gopaon: dim ond rhoi un droed o flaen y llall a theimlo crensiad ffres y borfa glaerwyn, a gwylio rhag ofn bod y graig lithrig yn agos at yr wyneb. Mi ddaw’r copa pan ddaw, ohono’i hun bron ac yn annisgwyl allan o’r niwl. Digon o amser yn duwcs.

*                      *                      *

Arferem fynd yn griw, tri ohonom: i’r Bannau, ac i’r Alban weithiau, ond yn bennaf i Eryri. Mynd i gyrchu eira yn y llefydd uchel, gan hel pa bac bynnag fedrem: côt law oedd yn gwrthod dal dŵr, a thrwsus wedi rhwygo. ‘Ice axe and crampons essential’ meddai’r rhagolygon, a finnau wedi cael gafael ar ryw ‘ice grips’ am £5.99 o siop Gelert yn Dinas. Dyna yrru llun i’r lleill ar Whatsapp: ‘wbath felma dwch?’ A chael yr ateb nôl: ‘Heina’n edrach fatha tethi wiwar’. Ond aem beth bynnag ac i’r diawl â’r llithro, am y Carneddau yn llawer rhy hwyr ar fore Rhagfyr oer a glas. Wrth ddychwelyd o’r Elen, daeth y cwmwl i lawr, a’r cwmpawd pumpunt yn deilchion. S’nwyrem ein ffordd am y gorau, a charlamu tua’r dyffryn.

Roedd rhywbeth am y gaeaf a’n cymhellai i fynydd, yn fwy felly na’r haf: distawach ar y copaon, a mwy o deimlad mai ni oedd eu pia, yn lle gorfod eu rhannu. Dim ond ni a’r rhai oedd yn dalld y dalldings.

Ym mhriodas un ohonom, be roddodd y priodfab i’w ddau was ond pâr o grampons smart yr un, a’n diolch yn daer ac yn llawn dyhead. Ond mae bywyd yn brasgamu’n ei flaen, a rhwng gwaith a symud a phriodas a phlant, dydan ni’n tri erioed wedi bod allan yn yr eira wedyn i’w trio nhw hefo’n gilydd. Does yna byth amser, ’di mynd.

*                      *                      *

Naïfrwydd dechrau’r flwyddyn hon: mi fasa raid cael trip yn fuan, dim ots be. Aem i rywle gweddol anghysbell, a phabell efo ni. Fyddai dim rhaid dod i gyswllt â neb, o gynllunio. Fedran nhw ddim cau’r mynyddoedd siŵr.

Ond daeth y clo llymach, ac nid aethom byth. Pa hawl oedd gynnon ni i fentro i Ardal y Llynnoedd, a finnau’n gweld pobl adref yn ymbil ar ymwelwyr i gadw draw o Eryri? Fasan ni ddim gwell na nhwytha wedyn.

Anodd o Gaerdydd oedd gwylio’r rheseidiau ceir ar y teledu wedi’u parcio’n fflyd, y ciwiau i’r copaon. Roedd rhyw draha ynof oedd yn dal i feddwl: mi faswn i’n gwbod yn well. Faswn i ddim yn tywyllu’r Wyddfa; mi awn am ryw gopa mwy distadl. Chawn i mo ’nal…

Feiddiwn i ddim cludo’r fadwch acw. Mwya sydyn doedd dim amser o gwbwl, ac roedd y mynyddoedd, o bobman, wedi cau.

*                      *                      *

Pwy sydd piau’r mynydd? Pwy sydd â’r hawl i wneud peth mor annirnad â’i gau?

Rydan ni wedi hen ddechrau teimlo y dylid cau’r mynyddoedd hyn i rai, a dim ond eu cadw ar agor i eraill. Onid ydi hynny ynddo’i hun yn syniad abswrd? Ond mae eleni wedi gwneud i ni feddwl yn hwy ac yn galetach nag erioed pwy sy’n berchen ar be; a’r tu hwnt i bwy’n llythrennol sy piau’r naill barsal neu’i gilydd o dir, pwy gaiff ddweud wedyn pwy sydd â’r hawl i’w tramwy.

Gallwn weld ambell un yn tynnu, straenio yn erbyn y tresi: roedd mor groes graen mwya sydyn, cael rhywun yn dweud wrthan ni nad oeddan ninnau chwaith yn cael esgyn i’n mynyddoedd. Roedd rhywbeth yn teimlo’n annheg yn hynny, er mod i’n synhwyro, o bellter y brifddinas, fod rhai’n reit amlwg yn mynd hefyd, a dim siawns y bydden nhw’n cael eu dal. Am eu bod nhw’n nabod y lle fel cledr eu llaw siŵr.

Bellach daeth y gaeaf o’r diwedd. Tybed, rŵan, fyddai’r mynydd yn agor i minna ac yn cau i eraill? Haid yr haf yn diflannu a chyfle i fynd adra dros y Dolig… Gyda’r gawod gynta, gwelais gyfrifon instagram bwygilydd yn dangos chwip yr eira, brath yr oerfel ar dalcen wrth ddod dros y gefnen. Finnau’n chwysu mewn tŷ yn y ddinas a’r gwres wedi bod mlaen yn rhy hir.

*                      *                      *

Y llynedd mi fûm ar daith gerdded, o Gaernarfon, o dŷ fy rhieni, i Drawsfynydd ar drywydd fy hen daid. Llyfrwerthwr oedd yntau, a arferai drampio ar hyd ac ar led Arfon, Môn a Meirionnydd ar bob tywydd, a rhuthro’n ôl o’r orsaf yn syth i gwarfod gweddi a golwg wyllt ar ei wedd. Byddai’n anfon cerdyn post o’i flaen i gyhoeddi ei ddyfod: Bethel, Bermo a’r Blaenau.

Mae’n rhaid gen i, mewn rhyw ffordd ddigon rhamantaidd ac ystrydebol, fod a wnelo’i grwydriadau yntau â’r ffaith ’mod innau’n teimlo rhyw hawl, rhyw berchnogaeth ar yr hen lwybrau hyn, rhyw berthyn. Y syniad ffuantus hwnnw fy mod, drwy droedio’r un rhwydweithiau ag yntau wrth gris-croesi’r tir, yn ffurfio rhyw fath o gysylltiad nid dim ond rhwng dau le ond rhwng dau amser hefyd: yn troedio’n ddyfnach nid yn unig i’r berfeddwlad, ond i’r gorffennol.

Dyna fynd felly i ail-greu ar droed ei daith olaf yntau ar drên. Ond ni allwn ffurfio’r cysylltiad: roedd gormod wedi newid, a’r tir yn teimlo’n wag lle byddai yntau wedi canfod cwsmeriaid ymhobman; y pentrefi wedi ymddeol, lle cawsai yntau ddiwydiant, prysurdeb, cymdeithas. Fisitors ym Meddgelert; gweithiwrs o Loegr ym Maentwrog, yn aros dros y gaea a gweithio yn yr hen bwerdy. Crwydrais am oriau, rhwng Rhyd-Ddu a Beddgelert neu wrth ddod lawr o Groesor i Dan-y-Bwlch, drwy goedwigoedd pîn trwchus, heb syniad o hyd a lled y tir. Gwichiai eu boncyffion yn y gwynt. Yn hen orsaf Tan-y-Bwlch, roedd lluniau o’r cyfnod pan fyddai fy hen daid wedi pasio drwyddi: doedd dim golwg o’r coedwigoedd pîn, a theimlai’r lle’n llawnach yn eu habsenoldeb. Llawer rhagor o bobl, llawer llai o goed.

Yn groes i’r bwriad, fy ymbellhau oddi wrth fy hen daid a wnaeth y daith honno, wrth i mi deimlo nad oedd y tir yn cario’r atgof ohono yr o’n i wedi’i ddychmygu a’i ddeisyfu. Ond fi oedd ar fai: wedi bod i ffwrdd yn rhy hir. Doedd dychwelyd o bryd i’w gilydd fel hyn i fynd ar ambell dro ddim yn hanner digon.

Sylweddolais, tua’r un amser eleni, na fyddwn wedi gallu ymgymryd â’r daith honno y flwyddyn hon.

*                      *                      *

Y Dolig ola adref cyn i’m mab gael ei eni, cymerais fy nghyfle tra oedd gen i amser. Os oes rhywbeth heblaw eira a niwl sy’n gwneud y mynydd yn fwy fyth eto, yna bod arno ar dy ben dy hun ydi hwnnw. Mae’r mynydd yn dragwyddoldeb wedyn. A phetaswn i’n bod yn gwbl onest, wrth edrych i fyny at y Garn o Gwm Idwal doedd gen i fawr o awydd mynd i drampio i fyny yno y diwrnod hwnnw o Ragfyr hwyr, yn y tir neb rhwng Dolig a’r flwyddyn newydd. Bu ond y dim i mi droi’n f’ôl ar ôl ennill y grib. Roedd fy stumog yn chwyrlïo fel plu eira mewn snowglôb, ond gwirion fuasai troi ar fy sawdl mor agos at y copa hefyd.

Ddiflannodd y chwyrlïo hwnnw yn fy nghylla ddim yr holl ffordd i lawr at y Twll Du, nid tan i mi daflu cip dros f’ysgwydd yn ôl at fraich y Garn, a gweld cadwen fechan o oleuadau’n disgyn, fel bylbiau bach ar goeden Dolig y gefnen. Nid fi oedd yr olaf i ddod lawr: roedd eraill, sadiach eu camre, y tu ôl i mi, ac felly doedd y mynydd mwya sydyn ddim yn anadlu i lawr fy ngwar yr un modd.

Yr eiliad honno, yn yr hanner golau a’r nos ar fy ngwarthaf, roedd yn rhyddhad cael pwy byd bynnag tu ôl i mi, rhyngof a’r nos: dim ots pa eiriau oedd yn atseinio i lawr y llethr tuag ataf. Roeddwn yn falch o ganfod unrhyw olion troed eraill yn yr eira o’m blaen, waeth pa iaith roedd yr olion hynny’n ei siffrwd.

Llyr Gwyn Lewis