Mae’r bariton o Bantglas yn trafod ei yrfa, ei gartref newydd ym Mhenarth a’r hapusrwydd newydd sy’n ei wneud yn well canwr ag yntau’n 50 eleni…
Bydd Bryn Terfel yn Monte Carlo ar noson ei ben-blwydd yn hanner cant yn canu un o’r rhannau pwysicaf i lais bas-bariton – Scarpia yn Tosca.
Mae’r tŷ opera’n trefnu parti iddo ar y noson flaenorol ac yn ôl y canwr, efallai y daw Shirley Bassey draw, “a Prince Albert i ddweud ‘helo’. Mae o’n un sy’n dod i ‘nghyngherddau i pan dw i yn Monaco.”
Mae Bryn Terfel wedi bod yn edrych ymlaen at ddathlu ei ben-blwydd yn 50 ers o leia’ 2010. Bydd ei asiant ac yntau wastad yn llenwi ei ddyddiadur bum mlynedd ymlaen llaw, a’i ddymuniad ar gyfer eleni oedd “ail berfformio rhai o’r ffefrynnau, mynd yn ôl i rai o’r dinasoedd dw i wedi mwynhau perfformio ynddyn nhw, ac efallai cael rhai darnau newydd.
“Roedd Fiddler on the Roof yn newydd eleni, wnes i berfformio yn Zurich, Milan, a Boston, ac i goroni’r holl beth, roedd y cyngerdd mawr ’na yn Neuadd Albert efo ffrindiau a theulu.
“Roedd y lle dan ei sang, sydd bob tro yn deimlad anhygoel.”
Ond mae’n derbyn bod sawl cyngerdd i’w gofio wedi bod yn ystod ei yrfa, fel yr un i ddathlu pen-blwydd Sting yn 60: “Roedd gynno fo artistiaid fel Bruce Springsteen, Lady Gaga, Stevie Wonder, Elton John ac ati; roedd hi fatha lein ddillad o gerddorion mwya’ arbennig y byd pop, a finna yn eu canol nhw yn canu Roxanne!”
Mae’r un gydag Andrea Bocelli yn dod i’w gof hefyd.
“Roedd ’na dros gan mil o bobol yno. Roedd hwnna’n un anhygoel, ond wsti be? Roedd nosweithiau Tân y Ddraig yng Ngŵyl y Faenol, i mi, yr un mor anhygoel, achos roedd rheina’n ail fyw fy arddegau i, pobol fatha Rhiannon Tomos, Edward H, yr hen Bryn Fôn a Dafydd Iwan. Roedd pawb yn mwynhau’r rheina.”
“Cyn agosed i berffaith ag sy’n bosib”
Mae’n credu bod ganddo ryw ddegawd eto yn y byd operatig, ond efallai na fydd y rhannau mor enwog, “ac mae rhywun yn gallu croesi’r ffordd i chwarae rhannau sydd â ‘chydig bach o gomedi.”
Fe allai newid cyfansoddwyr o Verdi, Wagner a Mozart, i efallai Rossini a Donizetti…ond nid yw’n barod i roi’r gorau i Wagner eto o bell ffordd.
“Rydych chi’n rhoi cymaint o’ch bywyd i ddysgu opera gan Wagner, mi fysai’n drueni tasech chi ddim yn ei ail berfformio fo. A pan ‘ydach chi’n ail berfformio rwbath, rydych chi’n ei fwynhau o’n fwy ac yn tyfu o fewn y rhan. Gobeithio y daw ’na sawl opera Wagner eto.
“Ond be fyswn i ddim yn hoff ohono fysa cynulleidfa yn cymeradwyo’r perfformiwr o’n i’n arfer bod. Mae’n bwysig bod fy mherfformiad byw i’n dal i gyrraedd rhyw fath o safon. Dw i wedi’i wneud o fy hun, cymeradwyo rhywun sydd wedi gwneud gwaith arbennig ers 40 mlynedd, ond i mi, tydi o ddim digon da bo chi’n cario mlaen yn eich gyrfa os nad ydi petha’n gweithio.
“Does ’na ddim perffeithrwydd mewn canu, ond mae angen bod cyn agosed i berffaith ag y bo modd.”
Cyfnod o newid byd
Mae Bryn Terfel yn derbyn ei fod wedi cyrraedd cyfnod o newid yn ei fywyd erbyn hyn.
“Ella bod y ffaith mod i wedi symud i fyw i Benarth yn golygu y bydd fy ngyrfa i’n mynd i gymryd cangen wahanol? Pwy a ŵyr, ella bydd Hollywood yn mynd i alw!”
Doedd ganddo ddim cyfrinach i’w rannu i’r perwyl hwnnw, ond roedd o newydd berfformio gydag Emma Thompson yn yr addasiad teledu diweddaraf o un o lyfrau plant David Walliams, Billionaire Boy, lle mae’r hogyn bach yn talu i ganwr opera ddod i ganu o flaen ei dŷ.
Mae newid wedi bod yn ei fywyd personol hefyd ag yntau’n hapusach erbyn hyn ar ôl cyfnod o sylw yn y wasg i’w ysgariad. Mae bellach yn caru gyda Hannah Stone, telynores 28 oed sy’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gŵyr ac yn gyn-Delynores Frenhinol y Tywysog Charles.
“Be ydi oed – dim ond rhif! A dw i’n 50 ifanc.”
Mae’n amlwg ei fod yn fwy hapus yn ei fywyd newydd ac yn cael ysbrydoliaeth gan y cerddor ifanc.
“Mae canwr angen sawl peth i wneud i’w lais o weithio ac mae hapusrwydd yn rhan bwysig iawn o hynny. Mae hi’n fy ysbrydoli i hefyd: mae hi’n ymarfer am oria yn y stafell gerdd ’na; weithia, ddaw hi ddim allan am wyth awr, sydd i berson eitha’ munud ola’ fel fi…
“Mae gweld rhywun mor amryddawn yn rhoi 100% fel yna yn gwneud i mi fod eisiau gweithio’n galetach.”