Mae’r band Adwaith, enillwyr Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2019, a label Libertino yn gwerthu chwe copi o’r albwm ‘Melyn’ mewn sawl ocsiwn er mwyn codi arian ar gyfer Tarian Cymru.
Gwerthodd ‘Melyn’ allan ar finyl o fewn pythefnos pan gafodd ei ryddhau yn 2018.
Daeth Gruffydd Wyn Owen, pennaeth label Libertino, o hyd i chwe albwm yn ei swyddfa – dau oedd mewn cyflwr “perffaith” a phedwar gyda “nam ar y cloriau.”
Gan nad oedd modd mynd â nhw i siopau i’w gwerthu, penderfynodd Gruffydd Wyn Owen ei fod “am wneud rhywbeth gyda rhain.”
Bydd copi yn mynd ar werth mewn ocsiwn ar wefan ebay bob tri diwrnod, a bydd pob person sy’n prynu copi yn derbyn copi wedi’i lofnodi o ail albwm Adwaith pan gaiff ei ryddhau yn 2021.
Ysbrydoliaeth gan Carwyn Ellis
Dywed Gruffydd Wyn Owen mai drwy drac Carwyn Ellis, Cherry Blossom Promenade, a gafodd ei ryddhau er mwyn codi arian i Tarian Cymru, y daeth i wybod am waith y mudiad.
“Mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud yn hynod bwysig ac mae’r syniad fod pobl yn mynd allan yna i achub bywydau heb gyfarpar diogelu yn wallgof,” meddai wrth golwg360.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Tarian ac yn hapus iawn i’w cefnogi.”
Tra bod Gwenllian Anthony sy’n chwarae gitâr fas i Adwaith wedi dweud mai “dyma’r peth lleiaf allwn ni wneud”.
“Rydym yn caru’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a byddwn yn parhau i ymladd drosto.”
Ceisiadau o America a Seland Newydd
Aeth y copi cyntaf ar werth neithiwr (nos Fawrth, Mai 12), gyda’r cynnig cyntaf yn dechrau ar £25, a dywed Gruffydd Wyn Owen ei fod wedi derbyn negeseuon gan bobol yn America a Seland Newydd yn holi am yr albym.
“Roedden nhw eisiau gwybod faint o’r gloch oedd yr albym yn mynd i fyny,” meddai.
“Roedd cyfrif y label a’r band yn llawn negeseuon, rhai gan bobol o America a Seland Newydd.”
Erbyn hyn mae’r cynigion ar y copi cyntaf wedi cyrraedd £158.33, gyda diwrnod yn weddill.