Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dweud y bydd prosiect newydd maen nhw’n ei lansio’n cynnig digwyddiad “o’r un anian â’r Eisteddfod” oedd i fod i gael ei chynnal yng Ngheredigion eleni.

Bwriad AmGen yw sicrhau bod elfennau o’r Eisteddfod ar gael i bobol eu mwynhau yn ystod cyfnod anodd y coronafeirws.

Bydd yn cael ei chynnal yn ystod wythnos gyntaf mis Awst, pan ddylai pawb fod ar y Maes yn Nhregaron.

Does dim rhaid aros tan Awst er mwyn dechrau mwynhau cynnwys o bob math sy’n ymwneud â’r Eisteddfod.  O ddydd Llun 18 Mai ymlaen, bydd AmGen yn rhedeg o leiaf un gweithgaredd y dydd, gan ddefnyddio nifer fawr o blatfformau, a chan weithio’n agos gyda’r wasg a’r cyfryngau ar draws Cymru hefyd.

Bydd cyhoeddiad o amserlen wythnosol AmGen bob dydd Gwener, gyda nifer o weithgareddau’n ymddangos ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol yr Eisteddfod ac eraill yn weithgareddau ar blatfformau fel Zoom ac AM.

“Fel pawb arall, ry’n ni’n hynod siomedig nad oes modd i ni gynnal yr ŵyl yng Ngheredigion eleni,” meddai Betsan Moses, prif weithredwr yr Eisteddfod.

“Ond roedden ni’n benderfynol na fyddai’n rhaid i bawb fynd heb ychydig o ‘Steddfod am eleni.

“Rydym yn falch o gael gweithio gyda nifer o bartneriaid er mwyn gwireddu rhywbeth a fydd o’r un anian â’r Eisteddfod, ond yn cael ei gyflwyno mewn ffordd wahanol iawn.”

Gweithgareddau

“O weithdai sy’n rhoi blas o ambell grefft gynhenid Gymraeg fel y cynganeddion a gosod cerdd dant, i arbrofion gwyddonol wythnosol i blant, ac o gyfle i fwynhau rhai o ddarlithoedd eiconig y blynyddoedd diwethaf i setiau cerddoriaeth byw a gweithgareddau i ddysgwyr, fe fydd rhaglen wythnosol AmGen yn cynnwys yr un cymysgedd eclectig ag ymweliad â’r Maes,” meddai Betsan Moses wedyn.

“Yn ogystal, bydd ambell ddigwyddiad mwy yn cael ei ddarlledu o dro i dro, gan roi blas i bobl o brosiectau fel Encore a’r Tŷ Gwerin.

“Ein gobaith yw cyhoeddi nifer fawr ohonyn nhw ar wefan yr Eisteddfod a’n sianel YouTube wedyn, fel bod gennym gofnod o’r gweithgareddau, a bod pobl yn gallu dychwelyd atyn nhw dro ar ôl tro dros yr wythnosau nesaf.

“Nid pawb sy’n defnyddio technoleg, ac felly fe fyddwn yn gweithio gyda’r wasg a’r cyfryngau ar draws Cymru, er mwyn sicrhau bod gan bawb fynediad hygyrch i weithgareddau AmGen.

“Gan gydweithio’n rheolaidd gyda rhaglenni fel Heno a Prynhawn Da, bydd cyfle i’r gynulleidfa gartref fwynhau agweddau o’r prosiect, a byddwn yn datblygu elfennau penodol i apelio at wahanol gynulleidfaoedd.

“Ry’n ni hefyd yn edrych ymlaen at gynnal rhai gweithgareddau sy’n benodol ar gyfer ein cefnogwyr yn nalgylch yr Eisteddfod yng Ngheredigion a Llŷn ac Eifionydd.

“Byddwn yn trafod syniadau amrywiol gyda’r pwyllgorau lleol er mwyn sicrhau bod cynnwys AmGen yn apelgar i’r ardaloedd hyn, ac ein bod yn ail-gydio yn ein gwaith ymgysylltu cymunedol ar lawr gwlad, mewn ffordd cwbl wahanol.”

Arlwy unigryw

Mae Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, wedi croesawu’r digwyddiad amgen.

“Byddwn yn gweld eisiau holl ddigwyddiadau Cymru eleni, yn enwedig yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n denu cannoedd o filoedd o bobl i wahanol leoliadau pob blwyddyn i ddathlu ein hiaith a’n diwylliant byw,” meddai.

“Mae’r Eisteddfod, fel nifer o ddigwyddiadau arall, wedi gorfod bod yn arloesol ar gyfer 2020 – heddiw maent wedi cyhoeddi menter newydd – Eisteddfod AmGen! – yn lle’r digwyddiad wythnos o hyd arferol.

“Mae’r digwyddiad ar-lein yn darparu cyfleoedd i ni gyd gymryd rhan a gwylio cystadlaethau a gweithgareddau wythnosol.

“Dwi’n gobeithio bydd cymaint o bobl a phosibl yn manteisio ar y cyfle i fwynhau’r arlwy unigryw a hwyliog sydd ar gael.”