Yn chwarae mewn bandiau ers blynyddoedd, dim ond rŵan mae Siôn Richards yn cyhoeddi ei stwff ei hun.

Yn ei arddegau roedd mewn band pync-roc o’r enw Wyrligigs, ac wedyn daeth yn un o griw Jen Jeniro am gyfnod hefyd.

Yn fwy diweddar, mae wedi bod ar y bass i Celt, y band chwedlonol o Fethesda.

Ac mae wedi bod yn gweithio yn ddistaw bach ar ei ganeuon ei hun tros y ddegawd ddiwethaf.