Eden (Llun: Sain)
Y band merched, Eden, fydd prif atyniad llwyfan y Maes ar nos Wener, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn.

“Mae’r tair ohonom ni wedi ecseitio yn lân ein bod ni’n neud gig mawr ar Lwyfan y Maes!” meddai Rachael, Emma a Non, a ddaeth i amlygrwydd gynta’ fel grwp ganol y 1990au.

“Dyma’r ffordd berffaith i ni ddathlu pen-blwydd Paid â Bod Ofn (eu halbwm cyntaf) yn 21 oed!  Dydyn ni methu disgwyl i fod yn Ynys Môn ddechrau Awst, a throi Bodedern yn Bod-EDEN am un noson!”

Yn 1997, roedd Eden yn perfformio ym Maes B prifwyl Y Bala. Roedd y tair wedi bod yn canu gyda’i gilydd ers dyddiau ysgol yn Glan Clwyd.

Dyma’r noson gyntaf i’w chyhoeddi ar gyfer yr Eisteddfod eleni.