Mae Bil y Farchnad Fewnol – mesur ôl-Brexit dadleuol – bellach wedi derbyn cydsyniad brenhinol.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi dadlau bod angen pasio Bil y Farchnad Fewnol er mwyn sicrhau masnach lefn ym Mhrydain pan fydd rheolau’r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben.

Ond mae gweinidogion yng Nghymru a’r Alban, a sawl llais blaenllaw yn Nhŷ’r Arglwyddi, yn gofidio mai ymgais yw hyn i gipio pwerau’r oddi wrthynt, ac mae yna wrthwynebiad mawr tuag ato.

Mae senedd-dai Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi gwrthod a rhoi cydsyniad, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bygwth gweithredu’n gyfreithiol pe bai’n dod yn ddeddf.

“Annibyniaeth – mae’n hen bryd”

Yn gynharach heddiw, trydarodd Liz Saville-Roberts AS ei rhwystredigaeth ar ddeall y byddai’r Llywodraeth yn bwrw ymlaen â’r Bil.

“Dyma ni gadarnhad bod San Steffan yn bwrw ymlaen â’i Mesur cipio pwerau er i Gymru a’r Alban wrthod caniatâd deddfwriaethol,” meddai’r Aelod Seneddol Plaid Cymru.

“Croeso i’r Deyrnas ‘Unedig’, lle mae un genedl yn gorfodi penderfyniadau ar y lleill. Annibyniaeth – mae’n hen bryd.”

Dadlau

Mae’r Bil wedi bod yn destun cryn ddadlau yn y ddau dŷ. Ddoe (dydd Mercher 16 Rhagfyr) cafodd Drew Hendry o’r SNP, llefarydd busnes y blaid, ei wahardd o Dŷ’r Cyffredin ar ôl protestio yn erbyn y Bil.

Wrth i’r trafod ar y Bil ddod i ben, gwaeddodd Mr Hendry “mae hyn yn warth” a gwrthododd ailgymryd ei sedd, cyn codi’r byrllysg (mace) seneddol a cheisio cerdded allan.

Mae’r byrllysg yn symbol o awdurdod brenhinol a hebddo ni all Tŷ fodloni na phasio cyfreithiau.

Yn amlwg mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bwrw ati ta beth, ac felly mae’n dra debygol y bydd hyn yn esgor ar gryn ffraeo dros yr wythnosau nesa’.

Pwerau yn “llifo” i Gymru

Hediw, mae’r Ysgrifennydd Busnes, Alok Sharma, wedi ceisio tawelu meddyliau llywodraethau Cymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon, trwy ddadlau na fydd unrhyw bwerau’n cael eu “gwaredu”.

“Ar ddiwedd y cyfnod pontio mi fydd pwerau tros ystod eang o faterion yn llifo o’r Undeb Ewropeaidd i lywodraethau datganoledig Holyrood, Bae Caerdydd, a Stormont am y tro cyntaf,” meddai.

“Bydd hyn yn galluogi pŵer dros fwy o faterion nag y maen nhw wedi ei brofi o’r blaen, gan gynnwys dros ansawdd aer, effeithiolrwydd ynni adeiladau, ac elfennau o gyfraith cyflogaeth, heb waredu unrhyw un o’u pwerau.”

Darllen Mwy