Bydd y cynllun ffyrlo a benthyciadau busnes yn cael ei ymestyn am fis arall hyd ddiwedd mis Ebrill, mae’r Canghellor Rishi Sunak wedi cyhoeddi heddiw.
Roedd y cynllun i fod i ddod i ben ddiwedd mis Mawrth ond mae’r estyniad yn awgrymu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn credu y bydd yr economi’n dal i straffaglu i ymdopi ag effaith pandemig y coronafeirws ymhell i fewn i’r flwyddyn nesa’.
Dywedodd y Canghellor: “Mae ein pecyn cymorth i fusnesau a gweithwyr yn parhau i fod yn un o’r rhai mwyaf hael ac effeithiol yn y byd – gan helpu ein heconomi i adfer, a diogelu bywoliaethau ledled y wlad.
“Rydyn ni’n gwybod bod busnesau’n rhoi pwys ar sicrwydd, felly mae’n iawn ein bod yn eu galluogi i gynllunio ymlaen llaw waeth beth fo’r llwybr y mae’r feirws yn ei gymryd.
“Dyna pam rydym yn darparu sicrwydd ac eglurder drwy ymestyn y cymorth hwn, yn ogystal â gweithredu ein cynllun ar gyfer swyddi.”
Cyhoeddodd Mr Sunak hefyd y bydd y Gyllideb nesaf ar 3 Mawrth 2021.
O dan y cynllun ffyrlo bydd y Llywodraeth yn parhau i dalu 80% o gyflog gweithwyr am oriau na weithiwyd tan ddiwedd mis Ebrill.
Dangosodd ffigurau swyddogol fod £46.4 biliwn o daliadau ffyrlo o dan Gynllun Cadw Swyddi Coronafeirws wedi’i hawlio, a hynny ar gyfer 9.9 miliwn o swyddi mewn 1.2 miliwn o gwmnïau ers ei sefydlu ym mis Ebrill.
Cyhuddodd Llafur Mr Sunak o aros tan y “funud olaf i weithredu” gan “adael busnesau yn y tywyllwch gyda llai na 24 awr cyn bod rhaid iddyn nhw gyhoeddi hysbysiadau diswyddo”.
Dywedodd canghellor yr wrthblaid, Anneliese Dodds: “Mae penderfyniadau anghyfrifol, munud olaf Rishi Sunak wedi gadael y Deyrnas Unedig gyda’r dirwasgiad gwaethaf ymhlith yr economïau mawr.”