Fe fydd £110m o gymorth ariannol ychwanegol i fusnesau sydd wedi’u heffeithio gan y cyfyngiadau coronafeirws diweddaraf, sy’n dod i rym dros y Nadolig, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw (Dydd Gwener, Rhagfyr 18).

Mae’r cyllid yn ychwanegol i’r £340m o gymorth i fusnesau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ddiwedd fis Tachwedd ac mae’r Llywodraeth yn disgwyl i’r pecyn cymorth newydd helpu degau o filoedd o gwmnïau ledled Cymru.

Bydd busnesau lletygarwch, manwerthu nad yw’n hanfodol, twristiaeth, hamdden a busnesau’r gadwyn gyflenwi yn gymwys ar gyfer y cymorth ariannol.

Mae disgwyl i Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg ddatgelu rhagor o wybodaeth am y pecyn cyllido hwn yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru heddiw.

Dyma’r cyfyngiadau sy’n dod i rym: