Fe fydd trafodaethau i geisio dod i gytundeb masnach ôl-Brexit rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn parhau ym Mrwsel er i’r ddwy ochr rybuddio bod “gwahaniaethau mawr” o hyd.

Er bod rhywfaint o gynnydd wedi bod, mae Ursula von dêr Leyen, llywydd y Comisiwn Ewropeaidd wedi pwysleisio y bydd “pontio’r gwahaniaethau hynny yn heriol iawn.”

Mewn galwad ffôn gyda Ursula von dêr Leyen nos Iau, roedd Boris Johnson yn mynnu bod yn rhaid i’r Undeb Ewropeaidd newid ei safiad ar hawliau pysgota os oedd cytundeb i fod.

Ychydig iawn o amser sydd ar ôl i ddod i gytundeb gyda dim ond pythefnos i fynd cyn diwedd y cyfnod trosglwyddo ac mae’r Prif Weinidog wedi dweud bod y trafodaethau mewn “sefyllfa ddifrifol.”

Mae Boris Johnson wedi rhybuddio ei fod yn “debygol iawn” na fydd cytundeb oni bai bod y bloc yn newid ei safiad ar hawliau pysgota “yn sylweddol”.

Mae’r Arglwydd Frost a phrif negodwr yr Undeb Ewropeaidd Michel Barnier wedi bod yn cynnal trafodaethau ym Mrwsel drwy’r wythnos gyda’r bwriad o fynd i’r afael a rhai o’r prif feini tramgwydd sy’n parhau.