Yn ôl comisiynwyr plant y Deyrnas Unedig mae pandemig Covid-19 wedi gwaethygu’r anfanteision sy’n wynebu plant.

Mae comisiynwyr plant o Gymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi cyfeirio at 30 o feysydd sy’n peri pryder iddynt.

Maen nhw hefyd wedi rhybuddio bod heriau sylweddol i hawliau plant yn deillio o Brexit gan y bydd yn gwanhau amddiffyniadau cyfreithiol.

Maen nhw’n galw ar y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig i fynd i’r afael â’r anfanteision.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig: “Mae sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd yn ganolog i’n hymdrechion i gynyddu cyfleoedd ledled y wlad, a dyna pam rydym wedi codi’r cyflog byw i bawb ac wedi rhoi hwb i gymorth lles.”

Mwy o blant mewn perygl dros y Nadolig

Yn y cyfamser mae nifer y cyfeiriadau gan yr NSPCC am achosion o gam-drin plant wedi cynyddu 79% ers y clo cyntaf.

Mae’r elusen wedi rhybuddio y gallai Covid-19 hefyd roi mwy o blant mewn perygl dros y Nadolig.

Fe gyfeiriodd yr elusen 923 o achosion at yr heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol rhwng Ebrill a Thachwedd – traean o rheini yn ymwneud ag esgeulustod.

Ar gyfartaledd cynyddodd nifer y galwadau i linell gymorth yr elusen o 64 y mis cyn y cyfnod clo, i 115.

Cynnydd mwyaf yn yr Alban

Gwelwyd y cynnydd mwyaf yn nifer y plant oedd yn aros mwy na 18 wythnos am apwyntiad cychwynnol gyda Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed yn yr Alban.

Eglurodd Comisiynydd yr Alban hefyd fod gwasanaethau iechyd meddwl sydd eisoes dan bwysau  hyd yn oed yn waeth oherwydd y pandemig.

“Cyn y pandemig, roedd gwasanaethau eisoes dan bwysau ond mae wedi mynd yn anoddach fyth i blant a phobl ifanc gael mynediad at wasanaethau hanfodol,” meddai Bruce Adamson, comisiynydd plant a phobl ifanc yr Alban.

“Mae plant a phobl ifanc wedi bod yn dweud wrthym yn gyson ei bod yn amhosibl cael eu gweld oni bai eu bod mewn argyfwng.

Mae’n annerbyniol bod yn rhaid i blant fod mewn argyfwng iechyd meddwl cyn iddynt gael triniaeth.

“Mae’n rhaid i ni weithredu’n gyflymach i fynd i’r afael ag effaith tlodi ac iechyd meddwl, a chymryd camau i sicrhau hawliau gwell ar ôl pandemig Covid-19.”