Mae mudiad PAWB wedi beirniadu’r “llanast” a wnaed gan Lywodraeth Prydain ar ôl i’r penderfyniad ynghylch dyfodol prosiect atomfa Wylfa gael ei ohirio am y pedwerydd tro.
Ddoe (dydd Iau, Rhagfyr 31), fe wnaeth y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan ohirio’r penderfyniad tan fis Ebrill – yr ail waith hefyd i Duncan Hawthorne, prif weithredwr Horizon, wneud cais am ohiriad.
“Llanast llwyr fu’r ymgais i adeiladu Wylfa B o’r cychwyn cyntaf,” meddai llefarydd ar ran PAWB.
“Bellach, mae’n hen bryd rhoi’r gorau i’r freuddwyd ffôl sydd wedi parlysu datblygiad Ynys Môn ers 2006.
Tri chwmni Americanaidd
Mewn datganiad, mae PAWB yn tynnu sylw at dri chwmni Americanaidd sydd wedi’u henwi fel posibiliadau i symud y prosiect yn ei flaen.
Ond maen nhw’n dweud bod gan y tri chwmni – Bechtel Corportion, Westinghouse a Southern Company – “gamweddau”.
O ran Bechtel, fe gafodd y cwmni ddirwy o bron i $58miliwn yn ddiweddar am dwyll ariannol yn ymwneud â chwmni arall dros gyfnod o 10 mlynedd yn Hanford Nuclear Reservation, y safle mwyaf llygredig o ran deunydd ymbelydrol yn yr Unol Daleithiau.
Roedd hyn, meddai PAWB, yn dilyn dirwy o $125miliwn am waith o safon isel ar yr un safle yn 2016.
Yn ôl PAWB, aeth Westinghouse yn fethdalwr wrth geisio adeiladu Atomfa Vogtle yn Georgia yn yr Unol Daleithiau ac mae’r ddau adweithydd sydd wedi’u cynllunio ar gyfer Wylfa bum mlynedd ar ei hôl hi a’r gost wedi dyblu i $25biliwn, a does dim sicrwydd y bydd yr atomfa yn cael ei chwblhau.
Mae prosiect arall y cwmni, sef atomfa V C Summer yn Ne Carolina, heb ei gwblhau ar ôl cael ei roi o’r neilltu yn 2017, ond mae’r trethdalwyr yn dal i dalu am yr atomfa.
“Pam nad ydi’r wybodaeth hon yn cael ei chyflwyno i’r cyhoedd?” meddai PAWB.
“Ydi swyddogion, gweision sifil, cynghorwyr a gwleidyddion yn gwybod am hanes y cwmnïau hyn? Oes ots ganddyn nhw?
“Yn achos Virginia Crosbie, AS Ynys Môn, mae hi’n brysur yn croesawu’r cyhoeddiad o Lundain, ond dim gair ganddi am y tri chwmni.
“Heb i Lywodraeth Llundain warantu eu helw, fyddai gan y triawd yma ddim diddordeb yn Wylfa B. Nid llesiant pobl Môn sy’n cyfri iddyn nhw.
“Crafu’r gwaelod mae Horizon os ydyn nhw mewn gwirionedd am geisio hudo y tri methiant yma i Ynys Môn.”