Mae’r cwmni Drop Bear Beer Co wedi cyhoeddi cynllun i adeiladu bragdy di-alcohol cyntaf Cymru rywle ar hyd yr M4 rhwng Caerdydd a Chaerfyrddin.

Bydd y prosiect yn cael ei ariannu drwy ymgyrch Crowdcube, gyda’r posibilrwydd i bobol fuddsoddi cyn lleied ag £11.

Mae disgwyl i’r bragdy, o dan reolaeth Joelle Drummond a Sarah McNena o Abertawe, fod yn llwyr weithredol erbyn mis Hydref, gan greu chwe swydd newydd yn y lle cyntaf.

Maen nhw’n dweud iddyn nhw orfod newid eu cynlluniau yn sgil y coronafeirws yn 2020, ond eu bod nhw bellach yn teimlo’n “hyderus ac wedi cyffroi” wrth greu swyddi newydd “ar adeg o golli swyddi”.

“Mae ein gwerthiant wedi tyfu gan 2000% eleni ac mae’r sector di-alcohol wedi parhau i dyfu,” meddai’r ddwy.

“Mae Drop Bear wedi’i sefydlu’n dda fel prif randdeiliad yn y diwydiant di-alcohol a bydd cael ein bragdy cwrw bach ein hunain yn ein helpu i gael cyfran fwy o’r farchnad honno drwy ganrannau uwch a mwy o addasu.

“Hwn hefyd fydd y bragdy di-alcohol cyntaf yng Nghymru, a dim ond yr ail yn y Deyrnas Unedig.”

Newid delwedd cwrw di-alcohol

Mae’r ddwy hefyd yn benderfynol o newid delwedd cwrw di-alcohol, gan addo “gollwng yr alcohol a pherffeithio’r grefft”.

Maen nhw eisoes wedi ennill sawl gwobr Brydeinig a dwy wobr Gymreig ar gyfer busnesau newydd.

Yn fwyaf diweddar, cawson nhw gydnabyddiaeth fyd-eang yng Ngwobrau Cwrw’r Byd a sawl digwyddiad byd-eang arall yn ymwneud â bwyd a diod.

Maen nhw bellach wedi bragu bron i chwarter miliwn o boteli, ac maen nhw’n allforio cynnyrch i Ewrop, Canada, yr Unol Daleithiau ac Awstralia.

‘Ionawr Sych’

Ymgyrch arall maen nhw’n gobeithio manteisio arni yw ‘Ionawr Sych’, sef mis o beidio ag yfed ar ddechrau’r flwyddyn ar ôl mwynhau dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

“Mae ein cwsmeriaid yn gyfuniad o bobol sy’n frwd dros gwrw crefft sydd angen opsiwn di-alcohol weithiau a’r sawl sy’n ymwrthod ag alcohol yn llwyr,” meddai Joelle Drummond.

“Beth bynnag yw eich rheswm dros yfed cwrw di-alcohol, mae Drop Bear yn golygu nad oes angen i chi gyfaddawdu bellach o ran blas neu grefft.

“Dechreuais i a Sarah fragu oherwydd roedden ni eisiau profi nad oes angen alcohol ar gwrw go iawn er mwyn cael hwyl.”

Y cwrw sydd ar gael

Mae gan Drop Bear bedwar cwrw gwahanol – Tropical IPA, Yuzu Pale le, Bonfire Stout a New World Lager.

Mae’r cwrw hefyd yn addas ar gyfer figaniaid, maen nhw’n ddi-glwten ac ychydig iawn o galorïau sydd ynddyn nhw, sy’n golygu eu bod nhw’n addas ar gyfer ystod eang o bobol.

Maen nhw’n cael eu gwerthu ar wefan y cwmni, ac maen nhw hefyd ar gael ar wefannau eraill gan gynnwys Amazon, ynghyd â lleoliadau ledled Cymru gan gynnwys gwesty’r Celtic Manor ger Casnewydd.