Doedd Brexitwyr ddim eisiau’r ffin dollau rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y Deyrnas Unedig, yn ôl David Jones, cyn-Ysgrifennydd Cymru a dirprwy gadeirydd y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd (ERG).

Fe fu’n siarad ar raglen World At One ar Radio 4 heddiw (dydd Gwener, Ionawr 1), gan ddweud ei fod “yn sicr” ddim yn disgwyl ffin yn Iwerddon.

“Doedd o ddim yn rhywbeth roedden ni’n ei ddisgwyl ac mae o’n rywbeth mae’r Grŵp Ymchwil Ewropeaidd wedi mynegi pryder yn ei gylch o erioed,” meddai.

“Yn drist iawn, fodd bynnag, dyna sydd wedi’i gytuno efo’r Undeb Ewropeaidd ac wrth gwrs, mi rydan ni am ddod o hyd i ffordd o weithio drwy’r broblem hon.

“Ond yn sicr ddim, doedd ffin ym Môr Iwerddon ddim yn rhywbeth roedden ni’n ei ddisgwyl, nac yn cytuno efo.”

‘Un cyfeirad’

Yn ôl David Jones, mae’n “ffin dollau sy’n weithredol i un cyfeiriad o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon”.

“Dydy’r ffordd arall o gwmpas ddim yn cael ei heffeithio, nid i’r un graddau beth bynnag,” meddai.

“Ac ydy, mae o’n gyfystyr â ffin.

“Mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno mesurau lliniarol – un o’r pethau mae wedi’u gwneud ydi sefydlu’r Gwasanaeth Cefnogi Masnach, gwasanaeth sy’n rhad ac am ddim ac a fydd yn codi datganiadau tollau ar ran masnachwyr yn rhad ac am ddim.

“Nid yw’n wir fod y Llywodraeth jest yn anwybyddu’r broblem – mae wedi gwneud tipyn i liniaru’r broblem, ond dw i’n meddwl y gwneith hi gymryd cryn amser cyn i’r trefniadau newydd gael eu sefydlu.”