Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, yn dweud bod ffigurau coronafeirws dyddiol y wlad heddiw (dydd Gwener, Ionawr 1) yn “bryderus o uchel eto”.

Mae 2,539 o achosion newydd wedi’u cyhoeddi heddiw – y trydydd diwrnod yn olynol o’r ffigurau uchaf ers dechrau’r pandemig.

Roedd 2,622 o achosion newydd ddoe (dydd Iau, Rhagfyr 31) a 2,045 ddydd Mercher (Rhagfyr 30).

Profodd 1,895 o bobol yn bositif yn ôl y ffigurau ddydd Mawrth (Rhagfyr 29).

Daw’r ffigurau hyn er gwaetha’r cyfyngiadau llymaf posib ledled y wlad.

Yn ôl Nicola Sturgeon, mae’r amrywiad newydd yn cyflymu ymlediad y feirws ac mae hi’n ymbil ar bobol i beidio ag ymweld â’i gilydd yn ystod y cyfyngiadau.

Mae’n dweud y gallai’r “wythnosau nesaf fod y rhai mwyaf peryglus rydyn ni wedi’u hwynebu ers Mawrth / Ebrill”, ac mae hi’n annog pobol i “ddal ati”.