Mae ymgyrchwyr tros hawliau anifeiliaid yn dweud bod cannoedd o adar wedi cael eu lladd mewn “cyflafan” tân gwyllt yn Rhufain neithiwr (nos Iau, Rhagfyr 31).
Mae deunydd wedi dod i’r fei sy’n dangos dwsinau o adar yn gelain ar lawr strydoedd y ddinas.
Dydy hi ddim yn glir eto beth oedd wedi achosi’r sefyllfa ond yn ôl ymgyrchwyr, mae’n ymwneud â thân gwyllt ar draws y ddinas lle mae’r adar yn nythu.
“Mae’n bosib iddyn nhw farw o ganlyniad i ofn,” meddai llefarydd ar ran yr ymgyrchwyr, sy’n dweud y gallen nhw hefyd fod wedi’u lladd wrth ffoi a tharo i mewn i wifrau trydan.
Mae’r ymgyrchwyr wedi ailadrodd eu neges flynyddol fod tân gwyllt yn gallu achosi niwed, ofn ac anafiadau i anifeiliaid o bob math.
Daw’r rhybudd er bod awdurdodau Rhufain wedi gwahardd tân gwyllt eleni, gyda chyrffiw 10 o’r gloch mewn grym fel rhan o gyfyngiadau’r coronafeirws.
Mae’r ymgyrchwyr yn galw am wahardd gwerthu tân gwyllt a ffrwydron bach eraill at ddefnydd personol.