Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth ar ôl achos o daro a ffoi ym Merthyr Tudful.

Cafodd bachgen 11 oed ei daro gan gar Renault Clio coch brynhawn ddoe (dydd Iau, Rhagfyr 31).

Roedd y bachgen ar sgwter adeg y gwrthdrawiad, a wnaeth y car oedd wedi ei daro ddim stopio yn dilyn y digwyddiad.

Llwyddodd y bachgen i fynd adref ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty wedyn am driniaeth ar ôl cael briwiau a chleisiau, ac fe gafodd e fynd adre’n ddiweddarach.

Mae lle i gredu mai dyn oedd yn gyrru’r Renault Clio, ac mae’r heddlu’n gofyn iddo fe neu unrhyw un arall â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101.