Mae prif weithredwr S4C wedi bod yn rhannu rhai o gynlluniau cyffrous y sianel gyda gwylwyr mewn llythyr arbennig ar ddechrau’r flwyddyn newydd.
Yn ôl Owen Evans, bydd 2021 yn llawn dop o raglenni newydd.
Yn eu plith mae drama newydd, Fflam, yn serennu Richard Harrington, Gwyneth Keyworth a Memet Ali Alabora a fydd yn dod i’r sgrîn fis nesaf.
Fis Mawrth, bydd y ddrama Bregus, sy’n serennu Hannah Daniel yn y brif rôl yn cael ei darlledu.
Ym mis Mehefin, bydd Nia Roberts a Steffan Cennydd yn serennu yn Yr Amgueddfa.
“Mae rhain yn siŵr o’ch cadw ar flaenau eich seddi a byddant ar gael fel bocs sets hefyd ar S4C Clic,” meddai Owen Evans.
“Byddwch hefyd yn falch o glywed fod cyfres newydd o Iaith ar Daith ar y ffordd ym mis Mawrth, gyda chriw newydd o selebs yn dysgu Cymraeg ac yn teithio Cymru.
“Mae Steve Backshall a Iolo Williams eisoes wedi bod yn ffilmio yn ogystal â Joanna Scanlan a Mark Lewis Jones. Cadwch lygad allan am fwy o sêr yn fuan!”
Gwasanaeth newyddion digidol newydd
Yn ei lythyr, mae Owen Evans hefyd yn crybwyll gwasanaeth newyddion digidol newydd S4C.
“Byddwn yn lansio ap newyddion digidol cyn hir er mwyn bod ar flaen y gad yn dod â’r newyddion diweddaraf i chi ar flaenau eich bysedd,” meddai.
“Ac i’r rheiny sy’n gwylio S4C drwy Virgin Media, o’r 4ydd o Ionawr ymlaen bydd S4C ar gael ar 104 yn hytrach na 166 ar Virgin Media yng Nghymru.
“Bydd S4C yn parhau ar 166 yng ngweddill Prydain.”
Mae S4C hefyd yn y broses o gasglu barn y cyhoedd ar S4C ac wedi comisiynu cwmni ymchwil a dadansoddi Strategic Research and Insight i arwain ar y gwaith.
“Er mwyn rhoi chi’r gwylwyr wrth galon ein gwasanaethau ry’n ni hefyd yn gwneud tipyn o ymchwil i gasglu barn y cyhoedd am S4C ar hyn o bryd,” meddai wedyn.
“Beth ydych chi’n hoffi, beth dy’ch chi ddim? Ry’n ni wir eisiau gwybod be’ ydych chi’n feddwl o S4C. Gallwch gymryd rhan trwy lenwi ein holiadur wrth e-bostio Gwifren@s4c.cymru.”