Fe wnaeth pobol oedd wedi ymgynnull ar gyfer parti yn Llydaw a ddenodd o leiaf 2,500 o bobol ymosod ar yr heddlu wrth iddyn nhw geisio symud pobol oddi ar y safle neithiwr (nos Iau, Ionawr 31).
Fe wnaeth y dorf roi ceir yr heddlu ar dân ac ymosod ar blismyn oedd wedi cael eu hanfon i’r safle yn Luzron, gan daflu poteli a cherrig atyn nhw.
Daw’r ymosodiad er gwaethaf cyrffiw’r coronafeirws ar draws Ffrainc, sy’n atal pobol rhag mynd allan i ymgasglu rhwng 8 o’r gloch y nos a 6 o’r gloch y bore.
Cafodd rhai o’r plismyn eu hanafu, meddai llefarydd.
Gallai erlynwyr gyhuddo’r bobol wnaeth ymgynnull o ystod o droseddau.